Antur Nesaf Esgyn: Tachwedd 2024

Ar ôl croesawu criw o bobl ifanc i Dreharris ym mis Chwefror eleni, mae tîm Esgyn yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ail benwythnos ieuenctid Esgyn yn digwydd ym mis Tachwedd eleni!

Bydd criw Esgyn yn dychwelyd i Ganolfan Rock UK Summit Centre yn Ne Cymru o’r 22ain – 24ain o Dachwedd.

Mae tîm Esgyn yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu’r berthynas gyda chanolfan Gristnogol Rock UK Summit Centre. Mae’r ganolfan yn Nhreharrs yn cynnig gweithgareddau antur o’r ansawdd uchaf, gyda naws Gristnogol, a chalon dros bobl ifanc Cymru.

Mae tîm Esgyn yn rhannu’r un galon, ac yn gweddio bod y penwythnosau ieuenctid newydd hyn yn gallu cynnig cyfle arbennig i bobl ifanc yn ein heglwysi a’n cymunedau ystyried ‘antur ffydd’ ar gyfer nhw eu hunain.

Mae ffurflenni bwcio ar gyfer mis Tachwedd bellach yn fyw ar dudalen wê Esgyn: Esgyn – The Baptist Union of Wales (ubc.cymru).

Estynnwn groeso i unrhyw un oed 11-16 i ymuno â ni mewn anturiaethau newydd eleni wrth i ni ‘ddod ynghyd i dyfu mewn ffydd, ac esgyn mewn gobaith ar gyfer cenedlaeth newydd’!

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â thîm Esgyn trwy esgyn@ubc.cymru neu ddilyn tudalen Instagram a Facebook Esgyn.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau