Edrych ymlaen at Esgyn 2025…

Dyma’r wythnos olaf i bobl ifanc fwcio eu llefydd ar benwythnos ieuenctid Esgyn! Pam lai ystyried ymuno â ni (neu wahodd bobl ifanc 11-16 oed i ymuno â ni) y mis Tachwedd hwn?

Fe wnaeth antur Esgyn ddechrau gyda phenwythnos ieuenctid ym mis Chwefror 2024. Gellir darllen am y daith yr aeth y tîm arni, yn ogystal â beth ddigwyddodd ym mhenwythnos ieuenctid cyntaf Esgyn yma.

Mae Esgyn wedi bod mewn partneriaeth gyda chanolfan Summit Rock UK yn Ne Cymru ers 2024, ac rydym ni wedi cael amser gwych yn Nhreharris ers hynny! Rydym mor falch bod trydydd penwythnos Esgyn yn digwydd yno eto o’r 21ain i’r 23ain o fis Tachwedd eleni.

Gallwch ddarganfod mwy am y gweithgareddau a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl ar ein penwythnosau ieuenctid yma.

Fe wnaeth tîm Esgyn ddechrau cyfres fideo byr yn ddiweddar yn edrych ar beth sydd wrth wraidd a chalon Esgyn…

Gallwch weld gweddill y gyfres ar gyfrif Instagram Esgyn!

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni bwcio (sydd yn cau y Dydd Sul hwn, 14 Medi) ar dudalen Esgyn yma.



Dod ynghyd i dyfu mewn ffydd

Esgyn mewn gobaith ar gyfer cenhedlaeth newydd…

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »