Daeth tua 70 o weinidogion eglwys, caplaniaid ac arloeswyr ynghyd o bob rhan o Undeb Bedyddwyr Cymru a Chymanfa Bedyddwyr De Cymru ar gyfer ein cynhadledd gweinidogion ar y cyd (di-Gymraeg). Am y drydedd flwyddyn yn olynol dyma ddychwelyd i Eglwys Gymunedol y Glannau yn Abertawe a derbyn y lletygarwch gwych arferol.
Y prif siaradwyr eleni oedd Lynn Green, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a Rachel Jordan-Wolf, Cyfarwyddwr Gweithredol Hope Together. Arweiniwyd yr addoliad gan Tim Barker (Arweinydd Ieuenctid a Gweithiwr Ysgolion ym Methel, yr Eglwys Newydd) a Jon Forman (Bugail yn Eglwys Bedyddwyr Blaenau Gwent) Cynigiwyd amrywiaeth o seminarau, gan gynnwys: ail-ddychmygu aelodaeth a bedydd yn y Gymru gyfoes gyda Choleg y Bedyddwyr Caerdydd; Rhannu Iesu ar draws y byd gyda BMS World Mission; Deialog Project Violet i fenywod rannu profiad a dynion i ddeall mwy am fod yn gynghreiriad da.
Ffolineb Grym Duw
Agorwyd ein cynhadledd gyda Lynn yn myfyrio ar ‘allu ffôl Duw’ o 1 Corinthiaid 1:18-31. Er bod llawer o newid o fewn cymdeithas, anogodd Lynn ni, fod gennym fel Bedyddwyr rywbeth allweddol i’w gynnig ar hyn o bryd. Mae ein gwreiddiau yn y ffaith ein bod yn bobl y ‘symudiad’ ac nid ‘sefydliad’. Gallwn ddefnyddio hyn i’n helpu i addasu mewn byd sy’n newid, yn hytrach nag i ddal at yr hen drefn. Mae pŵer ffôl Duw hefyd i’w weld yn y ‘pethau bach, nerthol’. Gan ddangos darlun o ddant y llew gyda’r hadau’n cael eu chwythu i gyfeiriadau gwahanol, cawsom ein calonogi, wrth i ni gynnig ein hunain yn y weinidogaeth, nad ydym bob tro yn gwybod yr effaith y mae hynny’n ei chael ar eraill. Fodd bynnag, fel Bedyddwyr sy’n dal at offeiriadaeth pob crediniwr fel rhan o’n DNA ysbrydol, mae’n hanfodol i ni ryddhau pawb yn ein heglwysi i weinidogaethu, gan fod yn arbennig o ymwybodol o’r rhwystrau y mae rhai yn eu hwynebu. Yn drydydd, gwelir pŵer ffôl Duw yn yr ymgnawdoliad. Fel dilynwyr Iesu, mae angen i ni fod yn gweithio ar ein ‘ymgnawdoliad o fewn ein cymunedau’. Yn erbyn cefndir cenedlaethol o ddirywiad mewn presenoldeb eglwysig, mae ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth!
Rachel Jordan-Wolf
Mae Rachel yn son amdani hi ei hun iddi fod yn angerddol dros gyflwyno eraill i Iesu drwy gydol ei hoes. Plannodd hi a’i gŵr, Darren, eglwys wyth mlynedd yn ôl yn Nwyrain Llundain, ac mae Rachel yn arwain Hope Together, elusen a sefydlwyd i ‘helpu pawb ym mhobman i adnabod Iesu’.
Defnyddiodd Rachel ddarlun o lyfrau Narnia CS Lewis – rydyn ni’n gweld arwyddion o’r gwanwyn yn hytrach na’r gaeaf – o ran pa mor agored y mae pobl i Iesu. Brithiwyd ei chyflwyniad gyda dadansoddiad o ymchwil ystadegol. Cynhaliwyd arolwg deng munud o hyd ymhlith 4,000 o oedolion yn y DU rhwng misoedd Ionawr a Chwefror 2022. Gan ddweud wrthym y gall ystadegau fod yn ffrind i ni, llwyddodd i dynnu sylw at rai egwyddorion pwysig.
Mae’n rhaid i ni rannu Iesu…
Yn ail sesiwn Rachel, parhaodd i rannu’r ymchwil ystadegol i’n helpu i ddeall ffyrdd posibl o rannu Iesu. Mae dros 62% o’r rhai nad ydynt yn Gristnogion yng Nghymru yn adnabod Cristion. Os yw pawb yn rhannu eu ffydd, mae hynny’n gyrhaeddiad enfawr! Dim ond 2% o’r rhai nad ydynt yn Gristnogion sy’n adnabod arweinydd eglwysig, â hyn felly yn tynnu ein sylw at bwysigrwydd gweld yr eglwys gyfan yn ymuno yn y gwaith cenhadol. Fodd bynnag, dim ond 24% o’r rhai nad ydynt yn Gristnogion ac sy’n adnabod Cristion sydd yn dweud bod y person hwnnw erioed wedi siarad â nhw am Iesu. Mae hynny’n amlygu’r her i ni adfer ein galwad i ‘fynd a gwneud disgyblion’ o’r holl genhedloedd.
Wrth edrych ar sut mae pobl yn dod i ffydd, rydyn ni’n darganfod mai’r ateb pennaf yw ‘tyfu i fyny mewn teulu Cristnogol’. Yr ateb uchaf nesaf yw ‘trwy ddarllen y Beibl,’ sef 24% o’r sawl wnaeth ymateb. Mae hyn yn golygu y gall hyd yn oed y weithred syml o roi Beibl i rywun gael effaith enfawr. Rhannodd Rachel sut mae hi a’i heglwys yn mynd allan i’r strydoedd, yn gosod bwrdd plastig ar y pafin ac yn gosod arwydd yn cynnig Beiblau am ddim.
Mae fersiwn ddeniadol o Efengyl Marc yn barod ganddynt i’w gynnig ac mae wedi arwain at lawer o sgyrsiau cadarnhaol fel y rhannodd Rachel gyda ni mewn sawl stori. Ar y cyfan roedd neges Rachel yn glir… dylem gael ein hannog. Mae pobl yn agored i glywed am Iesu a phan fyddan nhw’n gwneud hynny, maen nhw’n ymateb.
Y Gwanwyn ar droed?
Er bod penawdau’r cyfrifiad yn dweud wrthym am gwymp y rhai sy’n nodi eu bod yn Gristnogion (sydd bellach o dan 50%), ni ddylem gael ein digalonni. Mae nifer y rhai sy’n arfer eu ffydd Gristnogol yn parhau’n gyson ar tua 6% o’r boblogaeth yng Nghymru. Mae Cristnogion sy’n arfer eu ffydd yn cael eu diffinio yma fel y rhai sy’n mynychu’r eglwys yn rheolaidd, yn darllen y Beibl ac yn gweddïo.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar y gostyngiad yn nifer y Cristnogion ‘diwylliannol’, dylem ganolbwyntio ar eu natur agored i glywed am Iesu. At hynny, mae 18% o boblogaeth Cymru yn credu yn yr atgyfodiad fel y mae’r Beibl yn ei ddisgrifio. Mae 29% arall yn credu yn yr atgyfodiad, ond bod y Beibl yn cynnwys rhai elfennau na ddylid eu cymryd yn llythrennol. Mae hyn yn golygu bod bron i hanner y boblogaeth o bosibl yn agored i neges ganolog y ffydd Gristnogol. Gall fod mor hawdd cael eich digalonni a chymryd yn ganiataol na fydd pobl yn barod i ni rannu Iesu… ond daeth neges Rachel ar draws yn uchel ac yn glir… Mae llawer mwy o ddiddordeb nag y byddem yn ei gredu!