Ton o Weddi o Dde Corea!

Yr haf hwn, 120 mlynedd ar ôl i genhadon o Gymru gael eu hanfon i Dde Corea, fe wnaeth ton o weddi a chenhadaeth ddychwelyd i Gymru! Fe wnaeth nifer o eglwysi groesawu timau gweddi cenhadol o Dde Corea dros yr haf, gan gynnwys Eglwys Bethel yn Abergwaun. Dyma fyfyrdodau y Parch. Neil Warburton am eu hymweliad…

Helo! Fy enw i yw Neil Warburton, Gweinidog Eglwys Bethel yn Abergwaun.

Cawsom y fraint hyfryd eleni o groesawu Tîm Gweddi Cenhadol o Corea ym mis Gorffennaf eleni. Cyflwynwyd y tîm i ni gan Rob James a Phil Prosser sydd wedi bod yn croesawu timau tebyg am ychydig o flynyddoedd erbyn hyn.

Fe’u hesboniwyd i ni y cafodd y timau eu hanfon i Gymru mewn ymateb i ymdrech Cymreig 120 mlynedd yn ôl, pan gafodd cenhadon Cymreig eu hanfon i Dde Corea i hau gair Duw. Mae’r Coread eu hunain yn teimlo dyled o ddiolchgarwch i’r eneidiau dewr hynny, gyda rhai ohonynt yn colli eu bywydau i sefydlu yr Eglwys Gristnogol yng Nghorea.

Mae’r Coread eu hunain yn teimlo dyled o ddiolchgarwch i’r eneidiau dewr hynny, gyda rhai ohonynt yn colli eu bywydau i sefydlu yr Eglwys Gristnogol yng Nghorea

Fe wnaeth y tîm o 12 gyrraedd yn oriau man y bore ar yr 8fed o Orffennaf, gan wneud eu cartref yn ddewr yn festri’r eglwys am yr wythnos nesaf, ble bydden nhw’n cysgu ar welyau dros dro, cymryd cawodydd yn y ganolfan hamdden leol, a bwyta’r bwyd y coginiwyd iddyn nhw gan ein tîm arbennig o fenywod.

Fe wnaeth Bethel sefydlu rhaglen o ymweliadau ar gyfer y tîm, gan gynnwys ymweld â’r ysgolion cynradd lleol. Wrth iddynt wneud hynny, cawsom syndod i ddarganfod bod nifer o’r bobl ifanc yn gwybod mwy am ddiwylliant Corea trwy K-Pop a Gemau Squid nag oedden nhw’n gwybod am Iesu a’r Beibl!

Roedd cyfle i ni hefyd ymweld ag eglwysi eraill lleol, a rhannu mewn gwasanaeth a arweiniwyd gan y Parch. Jonathan yn St Mary’s, Eglwys yng Nghymru, ac amser o weddi yn Hermon.

Fe wnaethom ni hefyd gyflwyno’r tîm i gyngor lleol y dre, oedd yn ymddiddori yn rheswm eu hymweliad. Fe wnaeth aelodau’r cyngor rannu hanes byr am eu rhesymau eu hunain yn helpu’r gymuned, ac roedd cyfle i ni weddio drostyn nhw yn eu rôl a’u cyfrifoldebau.

Yr hyn nad oeddem ni’n disgwyl oedd y cyfarfodydd gweddi a gynhaliwyd bob nos rhwng 7 a 9 yh. Profwyd nad oedd y Coread yn geidwadol yn eu gweddi, ond yn ddaer, yn angerddol, ac yn uchel iawn!

Yr hyn nad oeddem ni’n disgwyl oedd y cyfarfodydd gweddi a gynhaliwyd bob nos rhwng 7 a 9 yh.

Roedd hi’n dda gweld mor angerddol oeddem nhw ym mhethau Duw, am Ei gyfiawnder, ac am i Deyrnas Dduw gael ei hadfer yma yn Abergwaun. Pe na bai hyn yn ddigon, ar ôl egwyl fach, bydden nhw wedyn yn parhau mewn gweddi tan ganol nos!

Fe wnaeth y tîm deithio o Dde Corea ar draul eu hunain, a nifer ohonynt yn cymryd amser i ffwrdd o’u hastudiaethau a’u gwaith. Teimlais i mi gael fy herio mewn ffordd ddofn gan eu haelioni, yn ogystal â’u degwm ychwanegol i’r eglwys pan oedden nhw yn barod wedi rhoi mewn ffordd mor wirioneddol hael. Tybed a ydw i, fel dernyn y wraig weddw yn y Beibl, yn rhoi o’m digonedd yn hytrach na phopeth sydd gen i ym mhethau Duw.

Bu llawer o ddagrau ar eu hymadawiad, wrth i Eglwys Bethel dderbyn llun o “linyn tair cainc” gyda nifer o negeseuon wedi eu hysgrifennu wrth law. Fel eglwys, teimlon ni wir fendith o’r profiad, a hyder bod gan Dduw Ei law ar Bethel ac ar ei gweinidogaeth i Abergwaun i’r dyfodol.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »

Diolch i Judith!

Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Parchedig Judith Morris am ei gwasanaeth rhagorol fel Ysgrifennydd Cyffredinol UBC…

Darllen mwy »