UBC x SWBA: Cynhadledd Gweinidogion

Mae Cynhadledd Gweinidogion Bedyddwyr Cymru yn dychwelyd i Abertawe y flwyddyn nesaf, ar y 15fed – 16eg o Chwefror!

Mae croeso i’n holl weinidogion ymuno â’r ddau ddiwrnod cyfoethog hyn o gymdeithas, mawl, sgyrsiau a seminarau, yn Eglwys Waterfront, Abertawe.

Thema Cynhadledd Gweinidogion Bedyddwyr Cymru 2027 yw: “Gweithredoedd Cenhadol: Mewnwelediadau o’r Eglwys Fore i ysbrydoli a llywio ein harferion presennol” (Missional Acts: Insights from the early church to inspire and inform our present-day practice).

Mae’n bleser gennym groesawu’r Parchg Dr Daniel McGinnis fel ein prif siaradwr. a’r Parchg Shayla Waugh fel ein hwylusydd addoliad a defosiwn.

Mae’r rhaglen lawn ar gyfer y ddau ddiwrnod ar gael yma, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer teithio a llety. Y Cyfradd Cynnar yw £90, tan 31 Rhagfyr 2026 (a £100 wedi hynny).

Archebwch eich llefydd yma.

Noder: Cynhadledd iaith Saesneg yw hon, ond cynhelir elfennau o’r rhaglen yn y Gymraeg, ac mae croeso mawr i’n holl weinidogion ymuno â’r Gynhadledd.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau