EBF Hope Heats: Gaeaf 2026/27

Llynedd, fe wnaeth y teulu Bedyddiedig yng Nghymru godi dros £8,000 o bunnoedd ar gyfer eglwysi yn Wcràin, er mwyn i eglwysi ddarparu lloches a llefydd cynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Eleni, mae’r sefyllfa gynddrwg os nad gwaeth.

Mae Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop (EBF) yn gwahodd eglwysi i sefyll gydag eglwysi yn Wcráin ar gyfer ail flwyddyn. Allech chi neu eich eglwys sefyll gyda’n brodyr a chwiorydd yn Nghrist yn Wcráin eto eleni?

Llynedd, trwy haelioni eglwysi ac unigolion ar draws Ewrop, fe wnaeth apêl Hope Heats helpu cadw 400 o eglwysi yn gynnes, gan eu caniatàu nhw i ddarparu lloches, cymorth ymarferol a gobaith ar gyfer yn agos i 480,000 o bobl. Dyw’r angen heb basio.

Am lai na £2,000, gall eglwys gael ei chynhesu drwy’r gaeaf i gyd. Mae ‘eglwys gynnes’ yn golygu llawer yn fwy nag adeilad cynnes yn unig. Golyga le ble mae pobl yn gallu dod ynghyd, bod mewn lle diogel, derbyn cymorth ymarferol, a gwybod nad ydynt yn angof gan eraill.

Os hoffwch roi…

Os hoffwch roi at yr apêl hwn, neu gynnal casgliad arbennig y Nadolig hwn neu yn ystod y Flwyddyn Newydd, gallwch…

Anfon eich rhodd (wedi marcio ‘EBF Hope Heats’) trwy BACS at:

Enw Cyfrif: The Baptist Union Of Wales

Rhif Didoli: 60-83-01

Rhif Cyfrif: 2049 4968

Bank: Unity Trust Bank

Anfon eich rhodd trwy siec, yn daladwy i ‘Undeb Bedyddwyr Cymru’, ac wedi postio at: Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru, Adeilad 2, Parc Dewi Sant, Job’s Well Road, Caerfyrddin SA31 3HB.

Bydd pob rhodd a dderbynir erbyn y 31ain o fis Ionawr yn cael ei anfon i’r apêl ‘Hope Heats’ trwy EBF. Sicrhewn y bydd pob rhodd yn cael ei basio at EBF.

Lledu’r Gair…

Os hoffwch ledu’r gair gyda’ch rhwydwaith neu eglwys, gallwch ddarganfod sleidiau oddi wrth EBF sydd yn gallu cael eu cyflwyno i eglwysi yma.

Diolch am eich haelioni ac am y cymorth ymarferol rydych chi’n medru cynnig ein chwiorydd a brodyr yng Nghrist yn Wcráin y Gaeaf hwn.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau