‘Apêl Timothy Richard’ – Diolch oddi wrth BMS!

Mae ‘Apêl Timothy Richard’ bellach wedi dod i ben gydag eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru yn codi’r cyfanswm anhygoel o £37,783. Menw blwyddyn ddigon heriol i gynnal apêl mae ymateb yr eglwysi wedi bod mor hael.

Mae BMS wedi ysgrifennu i ddweud: “Mae hwn yn ganlyniad gwych ac roeddem wrth ein bodd yn derbyn y cyfraniad hwn! Rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth y mae UBC wedi’i wneud i hyrwyddo’r prosiect hwn. Gyda’r plant sy’n ffoaduriaid yn profi dioddef o’r fath, mae addysg yn rhoi’r gobaith iddyn nhw a’u rhieni am ddyfodol gwell. Diolch i chi, a’r holl eglwysi ac unigolion sydd wedi cefnogi’r apêl hon, am sefyll gyda’r plant hyn a darparu ar gyfer eu hanghenion mewn amgylchiadau mor enbyd.”

Hoffem hefyd rannu neges fideo bersonol gyda chi gan Dr Kang San Tan, Cyfarwyddwr Cyffredinol BMS World Mission:

Thank you message from the General Director of BMS, Kang San Tan

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »