Taith Gerdded yn codi miloedd i Apêl Wcráin

Cyffyrddodd yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin â chalonnau canran uchel o bobl ein gwlad. Yn eu mysg, wrth reswm, oedd eglwysi’n hardaloedd ac aeth nifer ati’n ddiymdroi i drefnu casgliadau er mwyn helpu trueuniaid y rhyfel, gan anfon eu cyfraniadau drwy Apêl DEC neu elusennau eraill. Trefnu taith gerdded a wnaeth y Parchg Geraint Morse, gweinidog Croesgoch, Berea a Harmoni Pencaer, gan roi gwahoddiad i eraill ymuno gyda hwy.

O Harmoni i Hermon

Gwawriodd dydd Sadwrn Ebrill 9fed yn ddiwrnod braf heulog, gydag awyr las digwmwl ac arfordir Sir Benfro yn ei ogoniant. Ymgasglodd tua 25 o gerddwyr cyffrous tu faes i gapel Harmoni Pencaer i ddechrau’r daith gerdded i gapel Hermon Abergwaun, taith tua pedair milltir a hanner. Bu rhaid iddynt wneud nifer o symudiadau unigol ac mewn grŵp i blesio criw “Dechrau canu Dechrau Canmol” oedd wedi troi lan i ffilmio rhannau o’r daith. Gwelodd neb y daith yn bell oherwydd y sgwrsio difyr a’r hwyl yn y cerdded gyda nifer yn cymryd tro i gario baner Glas a melyn Wcráin. Ymlaen aeth y daith, trwy groesffordd Hener, lawr rhiw Wdig cyn cael seibiant byr ar y Parrog. Yna, un ymdrech fach arall, lan y steps i Abergwaun, rownd y sgwâr cyn mynd mewn i gapel Hermon.

Cynhaliwyd oedfa fer yn Hermon o dan arweiniad pedwar gweinidog! Llywyddwyd yr oedfa gan Y Parchg Huw George. Cafwyd darlleniad gan y Parchg Tom Dafis, cyn i’r Parchg Geraint Morse gyflwyno neges fer am holl bwrpas y daith gerdded, sef dangos cefnogaeth i ddioddefwyr y brwydro yn Wcráin. Y Parchg Aled Jenkins offrymodd y fendith ar y diwedd. Cerddodd aelodau cylch Blaenffos, Bethabara, Penybryn a Seion Crymych ar y Sadwrn cynt hefyd i gefnogi’r un fenter. Braf oedd gweld cynrychiolwyr o gylch Blaenffos wedi ymuno yn y cyfarfod ac wedi dod â’u cyfraniadau i’r apêl.

Cafwyd croeso cynnes gan aelodau Hermon gyda phaned i bawb ar y diwedd. Cyhoeddwyd ar y dydd bod tua £3,800 wedi dod mewn i’r apêl ond daeth tipyn mwy o arian mewn yn y dyddiau canlynol.

Cyflwyno siec y daith gerdded

Cyflwyno’r siec

Braint oedd cael bod yn bresennol yng Nghapel Caersalem, Cilgwyn, ar y 4ydd o Fai i longyfarch Mrs Bonni Davies, ar ei dyrchafiad i fod yn Llywydd Cenedlaethol Mudiad Cenhadol y Chwiorydd (“Y Senana”). Cafwyd rhannau arweiniol bendithiol gan chwiorydd Caersalem gyda chyfarchion yn dilyn gan gynrychiolwyr y Senana oedd wedi teithio, rhai yn bell iawn. Cyflwynodd y Parchg Geraint Morse siec o £5,860 i Mrs Bonni Davies ar gyfer gwaith Mudiad Cenhadol y Bedyddwyr. Dyma’r arian a ddaeth mewn wedi’r daith gerdded gan eglwysi cylch Blaenffos ac eglwysi cylch Croesgoch, Hamoni a Hermon. Yn dilyn adroddiad am waith B.M.S. (Baptist Missionary Society) cyflwynodd Mrs Bonni Davies ei neges, sef Anerchiad y Llywydd yn urddasol, yn gynnes, yn dreiddgar ac yn heriol. Clo ar y dydd oedd cymdeithas hyfryd o gwmpas y byrddau yn Llwyngwair a phryd o fwyd sbesial.

Gyda diolch i’r Parch Geraint Morse a Bonni Davies

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »