Croesawodd Judith Morris, Ysgrifenydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, ddynodi Sul 20fed Tachwedd fel Sul Diogelu i’r eglwysi, gan ddweud; ‘Am y tro cyntaf erioed mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn falch o’r cyfle i fod yn rhan o’r ‘Sul Diogelu’ ar 20 Tachwedd. Dyma gyfle arbennig i bob eglwys gynnal oedfa er mwyn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd diogelu yn ein Heglwysi ac i ddefnyddio adnoddau a baratowyd yn bwrpasol ar ein cyfer. Mae’r cyfan sydd ei angen ar wefan y Panel Diogelu! Sul Diogelu (panel.cymru). Ymunwch â ni wrth inni barhau i ddysgu sut i greu eglwysi gofalgar a diogel lle gall pob un ffynnu heb ofni unrhyw niwed.’
Pam ddim defnyddio’r fideo newydd sbon isod yn ystod eich oedfa Sul ar yr 20fed?
Rydyn ni’n hysbysebu! Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru
A oes gennych brofiad neu ddiddordeb yn y maes eiddo? Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i’r swydd ganlynol i weithio