Sbardun newydd

‘Mae na frwdfrydedd newydd yn yr Eglwys a theimlad cyffroes am ein dyfodol!’ esboniai Glyndwr Prideaux, un o swyddogion Eglwys Fedyddiedig Penuel Newydd, Gorseinon. Y rheswm am yr optimistiaeth newydd yw’r ffaith bod yr eglwys wedi dechrau ar bennod newydd yn ei hanes ar ôl uno dwy gynulleidfa. Ac weithiau, dechrau ar rywbeth newydd gyda’n gilydd yw’r cyfan sydd ei angen i Dduw weithio mewn sefyllfa – fel mae cynulleidfaoedd eraill a unodd ymhellach yn ôl wedi profi. 

Casllwchwr 

Sefydlwyd achos cyntaf y Bedyddwyr yng Nghasllwchwr ym 1842, er bod tystiolaeth wedi bod yn yr ardal ers dyddiau Eglwys Ilston ym 1649. Ar ôl rhai blynyddoedd roedd yr aelodau’n teimlo bod angen sefydlu eglwys yng Ngorseinon gerllaw ac agorwyd Seion yn 1899. Am flynyddoedd lawer bu’r eglwysi’n cydweithredu fel cymdogion, ond dros y degawdau diwethaf dechreuodd y niferoedd ddirywio’n araf.  

Gwelson nhw bod y ddwy eglwys yn wynebu heriau tebyg ac yn hydref 2021 daethant at ei gilydd i gynnal cyfarfod i ddechrau trafod y syniad o ddod â’r ddwy eglwys at ei gilydd. Dechreuon nhw gynnal addoliad gyda’i gilydd drwy gynnal gwasanaethau boreol yn Seion Noddfa a gwasanaethau nos ym Mhenuel. Dechreuodd hyn greu ymdeimlad o berthyn ac agosrwydd, ac ar ôl cynnal nifer o gyfarfodydd eglwysig a thymor o weddi ddwys penderfynodd y ddwy gynulleidfa uno’r ddwy eglwys a chreu un eglwys newydd, gan ddwyn yr enw ‘Penuel Newydd’.  

Cynhaliwyd gwasanaethau o ddiolchgarwch am orffennol y ddwy eglwys ar ddydd Gwener y Groglith ac ar Sul y Pasg 2022 cyn sefydlu Penuel Newydd y Sul canlynol yn ei gartref newydd yng Nghasllwchwr. Wedi cyfrannu cymaint at y broses, ymddeolodd y Parch Huw Roberts fel gweinidog dros y gynulleidfa newydd ym mis Gorffennaf 2022. Fel y dywed Glyndwr, ‘dw i wedi bod yn bles iawn ers i ni uno. Gawson ni fendith hefyd o dderbyn aelodau newydd o Gapel Annibynwyr Soar, gan fod yr achos hwnnw wedi’i ddirwyn i ben yn ddiweddar. Rydym yn bendant yn edrych ymlaen at y dyfodol gyda’n gilydd ac yn gweddïo am arweiniad yr Ysbryd wrth i ni geisio gweinidog newydd i ni fel eglwys i’n symud ymlaen.’ 

Trecelyn 

Pa ffrwyth all godi o uno eglwysi, pan fydd y cynulleidfaoedd yn bachu ar y cyfleoedd sy’n dod o gael dechreuad newydd? Mae stori’r degawd diwethaf yn Nhrecelyn, Gwent yn taflu goleuni ar y cwestiwn hwnnw, gan fod eglwysi Beulah Tabernacl y Bedyddwyr wedi uno ym mis Ionawr 2016. 

Yn nghanol y dref hon o 7000 o bobl yng nghymoedd y De, lleolid y ddau gapel ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd o’i gilydd. Roedd y ddau wedi bod yn cydweithredu ers blynyddoedd lawer, ond roedd Beulah yn arbennig yn mynd yn llai o ran niferoedd ac yn wynebu heriau sylweddol gyda’i adeilad. Roedd y syniad o ddod at ei gilydd wedi bod o gwmpas ers tro ond tan 2016 doedd yr aelodau yn Beulah ddim wedi teimlo bod yr amser yn iawn. Pan benderfynon nhw ailagor y sgwrs, fodd bynnag, syrthiodd pethau i’w lle ac fel meddai Geoff Champion, un o ddiaconiaid presennol Tabernacle, ‘roedd fel petai Duw yn dweud wrth y ddwy gynulleidfa “nawr rydych chi gyda’ch gilydd, rwy’n mynd i ddangos i chi beth alla i wneud drwoch chi”.  

Roedd gan Tabernacle waith plant llewyrchus ac yn ddiweddar roedd wedi buddsoddi mewn cegin newydd i’w defnyddio ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Ond y tu ôl i’r prif gapel roedd hen ystafell ysgol enfawr yn gorwedd yn wag ac yn dadfeilio. “Roedden ni’n teimlo bod dod at ein gilydd yn ddechrau newydd i bob un ohonom, ac fe roddodd ysgogiad a hwb go iawn i ni,” meddai Geoff. Fe wnaethon nhw gais am grantiau ar gyfer prosiect adeiladu i adnewyddu’r ysgoldy, ag amcangyfrif y byddai’n costio £700,000, ac fe gawsant syndod o’r mwyaf pan ddaeth dwy ran o dair o’r arian i law bron ar unwaith. “Mae’n rhaid i mi ddweud, pan ddigwyddodd hynny roedd yn rhaid i mi ddisgyn ar fy ngliniau ac edifarhau am fy niffyg ffydd fy hun,” meddai Geoff gyda gwên. 

Agorwyd y ganolfan – ar amser – yn 2018 ac mae’n darparu lleoliad nid yn unig ar gyfer gweithgareddau cymunedol i’r dref ond ar gyfer clwb Beiblaidd gwyliau llewyrchus o hyd at 150 o blant, gweinidogaethau plant a ieuenctid wythnosol a mwy. “Mae Duw yn bendant ar waith yma, ac wrth i mi edrych yn ôl mae’n amlwg fel mae Duw wedi ein mowldio ni i mewn i un corff fel eglwys ers yr uno. Ac mae’r ffrwyth rydyn ni wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf yma gyda’n gilydd – rydyn ni wedi bedyddio Cristion newydd y Sul yma – yn bendant wedi cael ei adeiladu ar weddi.” 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »