Rhannu straeon y Beibl gyda phlant ysgol…

Dyma ni’n mynd i gwrdd yn ddiweddar â Chris Thomas, aelod yng nghapel Bethesda, Tŷ Du, er mwyn clywed am ei gwaith hi ac eraill yn rhannu straeon y Beibl mewn ffyrdd creadigol gyda phlant cynradd. Dyma ddechrau trwy holi am ei thaith ffydd.Mae’n hyfryd cael cwrdd â chi, Chris! Dywedwch ychydig am sut y daethoch chi i’r ffydd Gristnogol?” 

Cefais y fraint o gael magwraeth yng nghapel Tirzah y Bedyddwyr ym mhentre Cwm ger Glyn Ebwy ond gallaf gofio’n glir yr amser pan ddaeth y cyfan yn fyw i mi trwy bregethwr a ddefnyddiodd y darlun o geiniog! Mae darn arian yn mynd yn fudr gan ei fod yn cael ei drosglwyddo o berson i berson ond yna fe all ddod fel newydd trwy fynd yn ôl i’r bathdy – rywsut fe siaradodd hynny â mi am wirionedd yr efengyl a chefais fy medyddio yn 11 oed. 

Rydych chi wedi treulio rhan helaeth o’ch bywyd yn rhannu’r ffydd gyda phlant. Sut y digwyddodd hynny? 

Ar ôl byw yn Abertawe am 15 mlynedd, symudodd fy ngŵr a minnau i Rogerstone/ y Tŷ Du ger Casnewydd, ac roedd gennym awydd cryf i fod yn rhan o fywyd yr eglwys.  Daethom yn aelodau ym Methesda, Rogerstone ryw bum mlynedd ar hugain yn ôl.  Yn y pen draw, deuthum yn rhan o’r tîm estyn allan a oedd yn canolbwyntio ar waith plant ac ysgolion, ac roedd hynny’n brofiad gwych. Ond daeth trobwynt pan siaradais â’r pennaeth yn yr ysgol gynradd leol, a oedd wedi cael profiadau gwael gyda phobl o eglwysi yn y gorffennol. A dyna le y daeth yr hedyn ar gyfer ICE Wales (Initiatives in Christian Education/ Menter Addysg Gristnogol) – corff a allai wneud gwaith Cristnogol mewn ysgolion gyda’r hygrededd a’r strwythurau i weithio’n dda o fewn gofynion y sector addysg. 

Cawsom weledigaeth ar gyfer Cymru gyfan hefyd, fel olwyn gyda breichiau yn arwain o’i chanol. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y gwaith yn tyfu o’r Tŷ-du i gwmpasu llawer o dde-ddwyrain Cymru erbyn hyn. 

Dywedwch ychydig wrthym beth yw ICE Wales bellach a beth rydych chi’n ei wneud? 

Dechreuodd y cwbl gyda gwasanaethau ysgol, yna clybiau Beibl amser cinio – ac mae wedi tyfu o hynny. Rydym bob amser yn gweithio gydag eglwysi lleol. Rydym yn hyfforddi gwirfoddolwyr o’r eglwysi i arwain y sesiynau yn yr ysgolion. Mae hynny’n bwysig iawn – mae’n Gristnogion lleol yn gweithio gyda’u hysgolion lleol, yn eu gwasanaethu ac yn meithrin perthynas gref gyda nhw. 

Dydyn ni ddim yn cael mynd i mewn i ysgolion a phregethu – ond gallwn fynd i gyflwyno straeon o’r Beibl. Felly rydyn ni wedi datblygu gwersi, gweithdai ac wedi defnyddio adnoddau Cerdded Trwy’r Beibl, sy’n adnabyddus yn rhyngwladol. Nawr gyda’r cwricwlwm Cymraeg newydd a’r thema ‘cynefin’, rydym wedi gallu datblygu adnoddau am Mary Jones, Florrie Evans a Robert Jermaine Thomas – gan gysylltu eu bywydau â diwylliant Cymru, y byd, y Beibl a Christnogaeth. Mae’r rhain wedi bod yn boblogaidd iawn! Ac er nad oes gyda ni ryw lawer o waith mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg hyd yn hyn, rydyn ni wrthi’n ceisio recriwtio rhai fydd yn medru gweithio gyda ni yn y Gymraeg.

Mae’n amlwg eich bod wedi bod wrthi’n ddiwyd. Sut mae hyn wedi eich annog yn eich cerddediad Cristnogol eich hunan? 

Mae cymaint o anogaeth yn dod o fod wrth y gwaith. Yn ddiweddar, er enghraifft, daeth mam-gu ataf yn Tesco a gofyn a oeddwn i wedi bod yn gwneud straeon y Beibl gyda’r plant yn yr ysgol. Roedd ei hŵyr wedi dod adref ac adrodd y stori ddiweddara yn llawn brwdfrydedd. Rydw i wedi bod yn yr ysbyty lleol ac wedi cael meddyg yn troi ataf ac  ailadrodd stori Genesis i mi gyda’r arwyddion llaw roedden ni wedi’u dysgu iddi hi pan oedd hi yn yr ysgol. Rwy’n credu bod yr Ysbryd Glân yn cymryd y straeon Beiblaidd hyn, yn eu gosod ym meddyliau plant – ac y bydd yr hadau hynny’n tyfu yn llawnder amser. 

Diolch yn fawr, Chris. Beth am gymryd eiliad i weddïo dros waith ICE Wales? Ac os hoffech chi weithio mewn partneriaeth â nhw yn eich ardal leol, gallwch gysylltu â nhw drwy eu gwefan: www.icewales.co.uk   

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2025 – Llundain

Ar gael bellach mae ffurflen gofrestru i fynychu cyfarfodydd blynyddol Adran Gymraeg UBC yn Llundain, ar wahoddiad Eglwys Gymraeg Canol Llundain, gan gynnwys Eglwys Fedyddiedig Castle Street…

Darllen mwy »

Casglu Pobl Ifanc Ynghyd

“Roedd criw o eglwysi gyda ni ar draws Cymanfa Bedyddwyr Gwent oedd â rhai pobl ifanc yn mynychu neu o leia yn gyfarwydd i’r eglwys – ond doedd yr eglwysi ddim o reidrwydd yn gallu cynnal gweinidogaeth pobl ifanc eu hunain…”

Darllen mwy »