Penodiad Newydd: Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol

Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad Mr Carwyn Graves a fydd yn dechrau ar ei rôl newydd fel y Swyddog Cenhadaeth a Chyfathrebu Digidol ym mis Awst 2021.

Mae Carwyn yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig a’i deulu a bydd yn gadael ei rôl gyda Chyfieithwyr Beibl Wycliffe lle mae wedi dal nifer o rolau ers 2017. Ef yw is-gadeirydd MissionAssist a swyddog cyhoeddusrwydd Cymdeithas y Cymod. Fel ieithydd, Cymraeg yw ei iaith gyntaf ac mae’n gyfforddus mewn Almaeneg, Ffrangeg a Saesneg ar ôl graddio o Brifysgol Rhydychen gyda gradd Ieithoedd Modern dosbarth cyntaf. Os ydych chi eisiau gwybod am ‘Afalau Cymru’ – mae Carwyn yn awdur ac awdurdod cyhoeddedig ar y pwnc, mae ganddo hefyd ardd lysiau drawiadol. 

Mae’n aelod o Benuel, Caerfyrddin ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’r eglwysi a’r Gymanfaoedd i wynebu her cenhadaeth yma yng Nghymru. Mae Carwyn yn dilyn Menna Machreth ond bydd ffocws newydd yn cynnwys pwysigrwydd ein helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol mewn byd digidol. Dylid nodi nad yw rôl Carwyn yn cynnwys elfen o‘r gwaith BMS.

Meddai Carwyn, ‘dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael gweithio gydag eglwysi Bedyddiedig Cymru dros y blynyddoedd i ddod, ac yn enwedig at wasanaethu ochr-yn-ochr â chi i rannu’r ‘trysor mewn llestri pridd’ sydd gyda ni.’

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Caffi yn y festri

Wrth gerdded i mewn i festri capel Tabor ym mhentre Dinas ar arfordir Gogledd Penfro, cewch wledd i’r llygaid sy’n gwbl wahanol i unrhyw festri arall yng Nghymru. ‘Ers y gwaith i drawsnewid yr adeilad, mae’r caffis sy wedi bod ma wedi bod yn llewyrchus dros ben – y lle yn aml wedi bod yn llawn dop!’ esbonia…

Darllen mwy »