Penblwydd y Cenn@d yn un oed!

Flwyddyn yn ôl – ar Fawrth 1af 2021 – lansiwyd Cenn@d, fel olynydd teilwng i gyhoeddiadau hirhoedlog Seren Cymru (y Bedyddwyr) a’r Goleuad (y Presbyteriaid). Roedd hanes hir yn perthyn i’r rheiny; cyhoeddwyd Seren Cymru am y tro cyntaf yng Nghaerfyrddin ym 1851 tra bod y Goleuad wedi dod allan yn wythnosol o 1869 hyd y llynedd. 

Pam newid felly? Y weledigaeth oedd creu wythnosolyn newydd a bywiog, mewn lliw llawn i’w gyhoeddi ar y cyd rhwng Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb y Bedyddwyr. Yn ffrwyth trafodaethau rhwng gwahanol enwadau Anghydffurfiol, y gobaith oedd y byddai’n dwyn y gorau o’r Goleuad a Seren Cymru at ei gilydd i greu cyhoeddiad perthnasol i’n cenhedlaeth. Rhan o’r cynllun hwnnw felly oedd bod yr wythnosolyn newydd yn ymddangos yn ddigidol – gellir ei lawrlwytho bob wythnos yma neu ar wefan y Cenn@d ei hun, ac mae modd derbyn copi caled trwy ysgrifennu at Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul – ysgolsul@hotmail.com  

Rhifyn cyntaf Cenn@d ar ddydd Gwyl Ddewi 2021

Fel meddai cadeirydd y pwyllgor llywio, Dr Densil Morgan, wrth i’r rhifyn cyntaf fynd i’r wasg: 

“Beth bynnag am ogoniant ddoe a grym y gwreiddiau, swyddogaeth hollol gyfoes sydd i’r cyhoeddiad hwn. Wrth ddewis yr enw Cenn@d – gyda’i ‘a’ gynffonog yn cyfleu’r dechnoleg newydd – buom yn ymwybodol, ar y naill law, o natur oesol y genadwri Gristnogol, ac o heriau amryfath y Gymru gyfoes ar y llall. Os ‘mynegi’, neu ‘ddwyn cenadwri’, sy’n cyfleu swyddogaeth Cenn@d, anelwn drwyddo gyfryngu gwybodaeth am ein gilydd, ein heglwysi, eu haddoli a’u gweithgareddau, cyfnewid syniadau ac nid hwyrach ffurfio barn, a’r cwbl er hwyluso tystiolaeth y Ffydd.” 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod Cenn@d mae croeso i chi gysylltu â’r golygyddion ar helo@cennad.cymru. Pam ddim hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn Cenn@d ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Trydar @CennadCymru ?  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »