Da gennym gyhoeddi llwyddiant apêl ‘Talentau Gobaith’ a gynhaliwyd yn ystod 2023-24 er mwyn cefnogi gwaith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Simbabwe. Nid yn unig y llwyddodd eglwysi ac unigolion ar draws teulu Undeb Bedyddwyr Cymru i gerdded dros fil o filltiroedd i godi arian a chefnogaeth i gymunedau yn Simbabwe sydd ymhell dros y nod gwreiddiol o 750 o filltiroedd – llwyddiant ysgubol felly! Ond at hyn fe lwyddwyd i godi cyfanswm o dros £25,000 at yr achos – gyda diolch mawr yn ddyledus i bob unigolyn a phob eglwys a gyfrannodd!
Meddai Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, “Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn hynod falch o fedru codi arian ar gyfer Apêl Cymorth Cristnogol Zimbabwe, sef ‘Talentau Gobaith’, a diolchwn am y cyfle i ddysgu mwy am yr heriau dybryd a wynebir gan drigolion y wlad. Cawsom fwy nag un cyfle i sgwrsio dros y we gyda rhai o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Zimbabwe a chlywed o lygad y ffynnon am yr anawsterau sy’n bodoli yno. Mawr obeithir y bydd ein cyfraniad tuag at y gwaith o ddatblygu dulliau newydd o amaethu yn wyneb newid hinsawdd yn gwneud gwahaniaeth a daliwn ati i weddïo dros y sefyllfa yno”
Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, “Rydym yn estyn diolch mawr am y rhodd arbennig hwn gan eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru a’r ymdrech at yr Apêl Talentau Gobaith. Mae wedi bod yn wych i ddilyn ymdrechion y flwyddyn ddiwethaf, y ‘cerdded!’, y gymdeithas, gweithred a gweddïo, a hyn dros gyfiawnder i gymydog yn Zimbabwe. Wrth i Cymorth Cristnogol cychwyn yn ei 80 mlynedd eleni, mae grym anorchfygol gobaith yn ein galw i gydsefyll gyda chymunedau yn Zimbabwe ac ar draws y byd sydd yn wynebu tlodi dwys ac effeithiau’r argyfwng hinsawdd. Mae UBC yn chwarae rôl arbennig yn y gwaith hwn a bydd canlyniad yr apêl hon yn galluogi gwaith arloesol a llawn gobaith mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol.”
Wrth i ni nodi’r llwyddiant, beth am gymryd moment i weddïo dros lwyddiant y gwaith ar lawr gwlad?
