Gwlad Pwyl: yr eglwys yn ymateb

Pan dorrodd rhyfel allan yn Wcráin, daeth eglwysi’r Bedyddwyr ledled Ewrop yn rhai o arwyr tawel yr ymateb i gynorthwyo. Wrth i deuluoedd a chwalwyd gan ryfel ffoi o Wcráin, dyma Gristnogion yn Narewka, Gwlad Pwyl, yn camu ymlaen yn barod i helpu. Dyma eu stori nhw.

“Pan ddaeth y newyddion, roedd rhyw ran ohonof yn meddwl efallai na fyddai pethau cynddrwg,” meddai Marzena. Mae hi’n aelod o Eglwys y Bedyddwyr yn Białystok, Gwlad Pwyl, cynulleidfa sydd wedi croesawu ffoaduriaid i’w hen ganolfan ieuenctid yn Narewka ers dechrau’r rhyfel yn Wcráin. “Ond y peth arall roeddwn i’n ei ystyried oedd efallai y byddai Gwlad Pwyl hefyd yn cael ei thargedu gan Rwsia. Yn gyffredinol, roeddwn i’n drist iawn oherwydd y bygythiad a oedd ar Wcráin.”

Mewn argyfwng sy’n effeithio ar filiynau o ffoaduriaid, gwaith eglwysi cyffredin y Bedyddwyr fel Marzena sydd wedi rhoi gobaith ymarferol i nifer o bobl. Roedd gan eglwys Marzena ychydig o aelodau o Wcrain eisoes, yn ogystal â’r defnydd o adeilad sbâr yn Narewka yr oedd yr eglwys yn ei ddefnyddio fel canolfan ieuenctid  ac encil. Er eu bod mewn lle da i ddechrau croesawu pobl, prin fod ystyriaeth yn cael ei roi i adnoddau ac ymarferoldeb wrth iddynt wneud penderfyniadau. “Sylweddolom fod angen i ni weithredu ar unwaith ar ôl i ni gael y wybodaeth bod  y rhyfel wedi’i dechrau,” ychwanega Marzena. “Sylweddolon ni nad oedd amser i betruso. Doedd dim lle i ddweud na.”

Dyma Marzena a’i heglwys yn gweithredu ar unwaith pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcrain

Nid croesawu pobl i’r ganolfan yn Narewka yn unig wnaeth yr eglwys. Agorodd aelodau’r eglwys eu cartrefi hefyd. Drwy aelodau Wcrainaidd o deulu’r eglwys, daeth Marzena yn ymwybodol hefyd fod angen dybryd am gymorth yn Wcrain ei hun. “O ddydd i ddydd doedd ganddyn nhw ddim bara hyd yn oed,” meddai. “Ac fe benderfynon ni ddechrau casglu pethau.” Yn fuan, roedd aelodau’r eglwys yn llenwi pedwar fan yr wythnos gyda bwyd, dillad, meddyginiaeth sylfaenol a chlytiau i blant ifanc. Byddai’r faniau’n cael eu gyrru i’r ffin lle’r oedd cyfeillion Wcrainaidd yr eglwys yn aros. Lle’r oedd angen arian ar bobl i wneud eu ffordd dros y ffin, byddai’r eglwys hefyd yn eu cefnogi’n ariannol.

Gyda chroeso mor hael yn cael ei ailadrodd ar draws cynulleidfaoedd yng Ngwlad Pwyl, nid yw’n syndod bod rhai eglwysi hyd yn oed wedi gwneud penawdau yn y newyddion seciwlar, a gydnabu eu bod nhw ymhlith yr ymatebwyr cyntaf ar lawr gwlad i groesawu ffoaduriaid. Ac mae’n rhaid nodi y galluogwyd yr eglwysi hyn i gamu ymlaen gan rwydwaith teulu’r Bedyddwyr, a gennych chi. Mae arian y mae eglwys Marzena wedi’i dderbyn mewn rhoddion o’r DU wedi eu helpu i brynu eitemau hanfodol i bobl sy’n aros gyda nhw, megis bwyd a dillad gwely. Maent hefyd wedi gallu uwchraddio hen foeler sy’n cael ei yrru gan lo i foeler nwy, sy’n golygu y gallant gadw’r ganolfan gyfan yn gynnes ac yn gyfforddus.

Ar wahân i gymorth ariannol, mae Marzena hefyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth ysbrydol y mae wedi’i chael drwy bobl sy’n gweddïo’n ffyddlon dros yr eglwys. “Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n sâl ac roeddwn i mewn sefyllfa eithaf anodd,” meddai. “A daeth yr Arglwydd ataf gyda’r adnod hon o Isaiah 43: 2, ‘Pan ewch chi drwy ddyfroedd dwfn, byddaf gyda chi.’ Ac mewn gwirionedd mae hynny yn fy nilyn drwy’r amser yn y sefyllfa hon.”

Mae Marzena yn hynod ddiolchgar am yr holl gymorth y mae ei chynulleidfa wedi’i gael – ond mae’n gwybod bod y daith hir i adfer gobaith a diogelwch i bobl Wcrain ymhell o fod drosodd. “Hoffwn ddweud diolch,” meddai Marzena. “Ond hoffwn eich annog i gymryd rhan cyn belled â bod angen hyn… Dwi eisiau eich annog chi i sefyll ochr yn ochr â ni a helpu.”

Cymerwyd gyda diolch o A church responds – BMS World Mission

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau