Mae yna hen, hen stori am grydd – gwneuthurwr esgidiau – mewn pentref. Roedd ei siop ar stryd y pentref: dim ond un ystafell lle roedd yn gweithio ac yn cysgu ac yn bwyta. Roedd ganddo stôf harn i goginio ei fwyd a chynhesu’r ystafell yn y gaeaf, a chadair, a gwely gyda chwilt clytwaith a lamp olew fechan i roi golau.
Noswyl y Nadolig oedd hi, ac roedd yr hen grydd yn drist wrth iddo gofio am ei wraig a fu farw flynyddoedd maith yn ôl, a’i blant oedd i gyd wedi prifio ac yn byw ymhell i ffwrdd. Cymerodd lyfr o’r silff, setlo yn ei gadair a dechrau darllen yn araf a gofalus. Darllenodd am y bachgen bach, Iesu, a gafodd ei eni nid mewn ystafell gynnes dda ond mewn beudy am nad oedd unman arall i aros.
“Pe bydden nhw wedi dod yma,” meddai, “gallai fod wedi cysgu ar fy ngwely, a byddwn wedi ei orchuddio â fy nghwilt.” Darllenodd am y doethion a deithiodd o bell i ddod ag anrhegion. Beth allai ei roi iddo pe bai Iesu’n dod yma? Tynnodd flwch bach llychlyd i lawr, ac ynddo roedd pâr bach o esgidiau: y gorau yr oedd erioed wedi’i wneud. “Fe fyddwn i wedi rhoi’r rhain iddo,” medda’n dawel wrtho’i hun.
Tyfodd yr hen grydd yn gysglyd a syrthiodd i gysgu. Yn sydyn, clywodd lais. “Fe wnest ti ddymuno fy ngweld i yn dy siop fach er mwyn rhoi anrheg i mi. Gwylia allan amdanaf yfory a deuaf, ond ni ddywedaf pwy ydw i. ”
Deffrodd y crydd. Ai breuddwyd oedd hyn, neu ai Iesu oedd yno’n dweud y byddai’n dod?
Drannoeth roedd y crydd yn eistedd wrth ei ffenestr yn gwylio’r stryd. Yn y pellter gwelodd ffigwr yn dod: ai Iesu oedd hwn? Na: dim ond yr ysgubwr ffyrdd – dyn budr, drewllyd yr oedd pobl yn anghwrtais iddo ac yn gwneud hwyl am ei ben. Stopiodd ysgubwr y ffordd gyferbyn â’r siop, gan rwbio ei ddwylo a stampio ei draed yn yr oerfel enbyd. Roedd y crydd yn teimlo’n flin drosto a dyma ei wahodd i mewn am ddiod boeth.
Dywedodd wrth yr ysgubwr ffordd ei fod yn cadw llygaid ar agor am ddyfodiad Iesu.
Y cwbl wnaeth yr ysgubwr ffordd oedd codi ei ysgwyddau, diolch iddo am y coffi a throi am y drws.
Trwy’r dydd fe wyliai’r y crydd y stryd ac wrth iddi fachlud, gwelodd rywun arall yn dod. Y tro hwn fenyw ifanc garpiog yr olwg oedd yno yn cario babi, yn ymlusgo ar hyd y wal. Agorodd y crydd y drws iddynt a’u gwahodd i mewn i rannu ei fara a’i gawl. Dysgodd ei bod yn gwneud ei ffordd draw at ei chefnder yn y pentref nesaf, gan obeithio y byddai’n rhoi llety iddi hi gan nad oedd ganddi arian i dalu rhent. Gwelodd y crydd draed oer y plentyn a chynnig yr esgidiau bach iddo: roeddent yn ffitio’n berffaith. Clywodd y fenyw ifanc ei stori, gwenu’n dyner, diolch iddo ac aeth ar ei ffordd.
Wrth iddi nosi, ac wrth fpdieb arall yn dod i lawr y stryd, dechreuodd y crydd ddigalonni. Nid oedd Iesu wedi dod; breuddwyd yn unig oedd hi. Dyma’r crydd yn mynd i bendwmpian yn ei gadair ger y stôf.
Daeth y llais eto: “Fe ddes i: a welaist ti fi? Roeddwn i’n newynog a rhoddaist fwyd imi, roeddwn yn sychedig a rhoddaist ddiod imi, roeddwn i’n oer a chymeraist fi i mewn, roeddwn i angen esgidiau a dyma ti’n eu rhoi i mi. ”
Gwenodd y crydd ac ebychu’n dawl; “fe ddaeth, fel y dywedodd.”
Beth a roddaf iddo, llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn orau’r praidd i gyd;
Pe bawn un o’r doethion gwnawn fy rhan ddi-goll;
Ond pa beth a roddaf? Fy mywyd oll…
Y Nadolig hwn, wrth i ni estyn allan gyda chariad Iesu, gadewch inni ei weld:
Yn y fam sy’n teimlo siom wrth droi at y banc bwyd,
Yn y fenyw ifanc ddioddefus sydd wedi ei masnachu,
Yn y weddw unig ac oedrannus,
Yn y ffermwr sy’n brwydro yn Simbabwe,
Yn y ffoaduriaid ifainc yn ein trefi a’n dinasoedd,
Yn ngwerthwyr y Big Issue,
Yn y dyn ifanc yn cysgu wrth ddrws y siop,
Ym mhob un y mae Duw yn ei roi o’n blaenau, ac yn dod â ni at eu sylw.
Boed i chi brofi’r llawenydd o dderbyn y rhodd y mae’r Crist-blentyn yn ei rhoi i ni,
ac o fod yn fynegiant ymarferol o’i gariad.
Boed i Dduw eich bendithio â chariad a’ch llenwi â heddwch.
Maggie Rich, Llywydd UBC