Gweinidogaeth genhadol yn Nolgellau

‘Dyma waith ein bywyd nawr,’ myfyria Danni wrth i ni eistedd mewn caffi oddi ar y sgwâr canolog yn Nolgellau. Roedd Danni, – sy’n weinidog Bedyddiedig -, ei gŵr a dau blentyn oed cynradd newydd symud i’r dref yn gynharach yn yr haf, ac roedd y plant yn agosáu at ddiwedd eu hwythnos gyntaf yn Ysgol Bro Idris. Ond does dim eglwys Fedyddiedig yn Nolgellau ar hyn o bryd, ers i gapel Jwda gau tair blynedd yn ôl. ‘Ond rwy’n credu bod Duw yn ymrwymedig i’r lle hwn a’i bobl, a dyna yw ein galwad ni hefyd.’ 

Mae perthynas Danni a’i gŵr â Dolgellau wedi ei blethu’n rhyfedd â’u cerddediad gyda Iesu. Daeth y ddau yn Gristnogion fel oedolion, wedi i Danni gael cefndir mewn arferion ‘New Age’. ‘Roeddwn i wedi bod yn annibynnol, mor hunangynhaliol fel person – ac yna fe gawson ni argyfwng dramatig fel teulu, ac fe ymyrrodd Duw mewn gwirionedd mewn ffordd wyrthiol. Yn fuan ar ôl hynny des i i adnabod Iesu, ac roedd cwpl Cristnogol yr oeddwn wedi dechrau dod i nabod wedi cynnig gwyliau i ni fel teulu yn eu bwthyn yn Nolgellau. Roedd e wir yn rhodd mor hael, ac fe gyfrannodd i’n hadferiad ni fel teulu – eu caredigrwydd, yr amser i ffwrdd, a phrydferthwch y lle ei hun wrth gwrs. A dyma ni’n dod yn ôl dro ar ôl tro – heb sylweddoli ar y dechrau y byddai Duw wedyn yn ein galw ni i symud a gweinidogaethu yma!’ 

Fel nifer o bobl yn y weinidogaeth lawn amser, roedd Danni’n amharod i ddechrau pan glywodd yr alwad i fod yn weinidog. Ond wrth iddi ddechrau ar ei hyfforddiant a gwasanaethu fel myfyriwr gweinidogaethol yn nwyrain Lloegr lle’r oeddent yn byw, sylweddolodd yn raddol nad gweinidogaethu yno oedd bwriad Duw iddi. Roedden nhw’n dal i ddod yn ôl tua’r gorllewin i Gymru ac i Ddolgellau, ac mae Danni’n cofio’n glir sut y byddai ei gŵr – nad oedd eto’n grediniwr – yn ebychu wrth iddyn nhw yrru dros y bwlch i Wynedd ‘os mai Duw wnaeth greu hyn, mae e’n berson cwbl frawychus ac hefyd cwbl gyffrous!’ Pan ddaeth i ffydd ei hun ac yn dilyn proses hir o ddirnadaeth gydag Undeb Bedyddwyr Cymru ynghyd â chyfle annisgwyl i brynu tŷ yn y dref, gwelsant sut roedd y darnau’n disgyn i’w lle. 

Meddai Hazel Williams-Jones, Arolygwr Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion ‘Mae’r Gymanfa yn falch bod y dystiolaeth Fedyddiedig a fu yn y dref yn mynd i barhau ar ei newydd wedd’, ac meddai Cath Williams, Cadeirydd y Gymanfa, ‘Rydym i gyd yng Nghymanfa Dinbych, Fflint a Meirion yn anfon ein dymuniadau gorau at y teulu ar gychwyn taith newydd a chyffrous yn ei hanes. Mae drysau nifer o eglwysi wedi cau yn ddiweddar a hynny yn ein gwneud yn drist, ond gyda’r  fenter hon mae cil y drws newydd yn agor a chyfleoedd newydd yn dod yn sgîl hynny fe obeithiwn.’  

Er bod ganddi bedair blynedd o brofiad bellach fel gweinidog eglwys o dan hyfforddiant yn Swydd Gaergrawnt a Swydd Bedford, mae Danni yn esbonio nad yw hi’n edrych i blannu cynulleidfa eglwys yn y dref ar frys. “Dwi’n weinidog gyda’r Bedyddwyr, a dwi’n hapus iawn i ddweud hynny wrth bobl. Ond am y tro, mae hynny’n golygu gweinidogaeth lletygarwch; rhoi a derbyn, gwasanaethu pobl yn y dre wrth i mi ddod i’w hadnabod a gwrando arnynt. Byddaf yn gweddïo drostyn nhw – a phan fydd pobl eisiau gwybod, byddaf yn dweud wrthyn nhw am Iesu.’ Fel cymuned Gymraeg yn bennaf, beth mae hynny hefyd yn ei olygu i Danni a’r teulu cyfan yw’r angen i ddysgu’r iaith yn rhugl, a dod i adnabod y diwylliant hwn sydd mewn gwirionedd yn newydd iddynt. ‘Mae’n gymaint o fraint,’ meddai Danni â’i llygaid yn disgleirio, ‘a chredaf y daw’r amser pan fydd i’r dref hon unwaith eto enw da am ei bywyd ysbrydol yng Nghrist!’ 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »