Gweinidogaeth ar ben y Mynydd

Nigel Cooke sy’n rhannu ei stori anhygoel am ddod i ffydd, o enwogrwydd rygbi lleol i gyfarfyddiad unigryw ar ben mynydd, a newidiodd gwrs ei fywyd yn llwyr…

“Pan fyddwn ni’n cyfarfod ar gyfer astudiaeth Feiblaidd nawr, byddwn ni i gyd yn eistedd o amgylch y ford – felly os bydd rhywun yn dod i mewn, allan nhw ddim gweld ar unwaith pwy sydd yn arwain,” meddai Nigel – plastrwr, tad i bedwar a bellach gweinidog lleyg yn Nebo, Cefn Cribwr. “Ac er ein bod yn llai o ran nifer nag ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae’r gymdeithas ymhlith y pymtheg ohonom wedi tyfu’n gryfach.”

Ac mae’r dystiolaeth honno o dwf ysbrydol wedi digwydd drwy brofiadau mynyddig anhygoel i eglwys Nebo (sydd wedi ei henwi ar ôl mynydd pwysig yn y Beibl) ac i Nigel ei hun dros y blynyddoedd diwethaf.

Profiad ar ben mynydd

“Fyddwn i ddim yn dweud fod gen i weinidogaeth arbennig i’r bois rygbi”, esbonia Nigel, “ond gan fy mod i’n un ohonyn nhw fy hun – a’r mwyaf garw o gwmpas fan hyn mae’n debyg am gyfnod – mae’r berthynas yna’n golygu fy mod i’n gallu rhannu pethau ysbrydol gyda nhw.” Mae Nigel, sydd nawr yn ei bumdegau, yn gallu edrych yn ôl dros sawl degawd o’i fywyd lle nad oedd yn dilyn Iesu o gwbl, er ei fod wastad wedi credu yn Nuw. Mae’n cofio’r blynyddoedd lle byddai’n gweithio, yn chwarae Rygbi, yn meddwi ac yna’n chwilio am rywun i ymladd â nhw ar nos Wener wedi ‘ny. “Roedd fy nhriciau ar y cae rygbi yn enwog hefyd – roedd gen i enw drwg amdanyn nhw!”

Ond wedyn un Pasg, fe newidiodd y cyfan. “Ro’n i’n gorwedd ar fy ngwely ac roedd hi’r diwrnod cyn dydd Gwener y Groglith a dwi’n cofio llais llonydd, clir yn dweud wrtha i o nunlle: ‘beth wyt ti’n mynd i’w wneud drosof fi yfory?'”

Rown i’n gwybod taw llais Duw oedd e, ac yn gynnar y bore wedyn dyma fi’n cychwyn allan am y mynydd lleol gydag un nod mewn golwg – codi croes i edrych dros y dyffryn. Fel roedd hi’n digwydd, cerddodd Nigel heibio i gartref ei frawd ac am ryw reswm roedd hwnnw allan ar stepen y drws er gwaethaf yr awr gynnar. Aethon nhw i fyny gyda’i gilydd ac ar ôl codi’r groes bren, a theimlodd arweiniad i weddïo ac i ddiolch i Dduw am yr hyn a wnaeth Iesu ar fynydd Calfaria ar ddydd Gwener y Groglith.

“Roedden ni yno mewn tawelwch ar ôl gweddïo, a doedd yr un ohonom ni yn beth fyddech chi’n ei feddwl amdano fel ‘dynion crefyddol’ ac yna dechreuodd fy mrawd ganu emyn hefyd. Roedd yna ryw awyrgylch o gylch y lle, chi’n gwbod? Ac yn hwyrach pan oedden ni’n cerdded nôl lawr y mynydd, edrychon ni’n ôl a gweld y ffigyrau yma mewn gwyn o gwmpas y groes – ac wedyn roedden nhw wedi mynd.”

Ddeufis yn ddiweddarach, trawyd ei frawd yn sâl a bu farw’n sydyn “Alla i ddim gwybod…. ond dydw i ddim yn meddwl taw cyd-ddigwyddiad, o edrych yn ôl, oedd bod Duw wedi ei arwain at y profiad hwnnw gyda fi adeg y Pasg mor fuan cyn iddo farw. Mae’n rhaid i mi ymddiried bod Duw yn ein harwain ni i gyd”.

Teimlai y dylai fynd i eglwys a dyma fe’n troi i fewn i gapel lleol un Sul, lle cafodd groeso cynnes. “Dim ond cynulliad bach oedd yno, ond daeth yn rhywbeth wnes i – jest llithro i mewn yn y cefn i ddechrau ac yna cymryd rhan. Roedd Duw wedi fy arwain i yno.”

Gweinidogaeth yn Nebo

Cwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach ac roedd newid amgylchiadau yn golygu ei bod hi’n bryd iddo symud i Nebo ym mhentref Cefn Cribwr gerllaw. “Roedd yr eglwys wedi cael amser garw gyda’u gweinidog bryd hynny, ond roedd yna fendith yn ein disgwyl ni fel teulu yno. Dechreuodd fy Nhad ddod yn ôl i’r eglwys am y tro cyntaf ers degawdau, a fy ngwraig hefyd.”

Ac yna yn 2021, gofynnwyd i Nigel gan yr aelodau a fyddai’n ystyried dod yn weinidog lleyg i’r eglwys.

“Roeddwn i mewn gwirionedd wedi cael y teimlad cynyddol yma o alwad, wedi bod yn gweddïo llawer ac wedi dechrau mynd i bregethu yng nghapeli eraill y Bedyddwr yn yr ardal hefyd. Diwedd y peth oedd i mi gael fy ordeinio yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a dwi bellach yn dilyn cwrs gweinidogaeth yng Ngholeg Bedyddwyr Caerdydd.”

“I fi, nawr, mae’n fater o gadw pethau yn real. Dim ond pobl gyffredin ydyn ni, ond weithiau gallwn ni wneud pethau anghyffredin yn nerth Duw. Roedd yr eglwys fach hon wedi bod mewn tymor anodd ac roedden nhw wedi dod i ryw ddyffryn du yn ei hanes. Roedden nhw heb weinidog ers yr un blaenorol a doedd hi wir ddim yn glir sut ar y ddaear y bydden nhw’n cael un arall. Yna, daeth Duw â fi o bawb atyn nhw – ac erbyn hyn mae’na gynhesrwydd go iawn rhyngom ni i gyd yn yr eglwys.”

Eglura fod ei weledigaeth yn eithaf syml; “Dwi eisiau cyrraedd pobl gyda’r efengyl – dyna pam dwi’n rhoi rhai o fy negeseuon ar Facebook ac fe fydda i’n cael pobl – dynion digon caled weithiau, pobl sydd wedi fy nabod – yn ymateb neu yn hoffi beth dwi’n ei roi allan yna. Gall hynny fod yn syndod!

Ac mae’r un peth pan fydda i’n cael cais i gymryd angladdau yn yr ardal. Rwy’n dweud wrth bobl y byddaf yn gweddïo ac y byddaf yn rhannu’r ffydd Gristnogol a bydd pobl yn dweud eu bod yn hapus gyda hynny. Dwi’n meddwl bod gyda ni alwad – a’r alwad yna yw i fynd allan i bobl sy’n stryglo, sy’n anghenus ac i wneud hynny gyda’r efengyl.”

Diolchwn i Dduw am Nigel a phawb yn Nebo – a gweddiwn y byddan nhw’n parhau i weld llaw Duw yn eu harwain yn y cynlluniau rhyfeddol sydd ganddo ar eu cyfer nhw wrth iddyn nhw estyn allan i’w cymuned!

Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi yn wreiddiol yn Y Negesydd, Rhifyn Gwanwyn 2024. I ddarllen mwy o straeon o Dduw ar waith yng Nghymru ac yn y byd heddiw, ewch i ddarllen Negesydd Gwanwyn 2024, a rhifynnau blaenorol.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau