Gweddi dros Israel a Gaza

Fel teulu Bedyddwyr, rydym yn galaru yn sgil y digwyddiadau diweddar yn Israel, Gaza a’r rhanbarth ehangach. Safwn mewn gweddi gyda Christnogion ar draws y byd…

Ar y cyd gyda nifer o’n brodyr a chwiorydd yng Nghrist ar draws y byd, rydym ni’n gweddïo dros bob un a effeithiwyd gan wrthdaro a phoen yn Israel, Gaza, a’r rhanbarth ehangach.

Mae ein calonnau yn enwedig o drwm dros ein brodyr a chwiorydd Bedyddiedig yng Nghymanfa Eglwysi Beddydiedig Israel, a Chyngor Eglwysi Lleol Efengylaidd y Tir Sanctaidd, gan gynnwys eglwys Feddydiedig yn Gaza. Gweddïwn drostynt, am ddewrder, iachâd, a doethineb.

Oddi wrth deulu Cynghrair Bedyddwyr y Byd (BWA)

‘Fel teulu byd-eang, rydym ni’n galaru gyda’n gilydd y bomio ofnadwy a ddigwyddodd i Ysbyty al-Ahli, a wybyddir weithiau gan yr enw ‘Ysbyty’r Bedyddwyr’. Mae etifeddiaeth fywiog a chyfoethog Bedyddiedig yn yr ysbyty hwn, a gynigiodd trugaredd Crist i bob un ddôi trwy’r drysau. Mae’r weinidogaeth yn parhau heddiw gan yr Eglwys Anglicanaidd. Mae Cynghrair Bedyddwyr y Byd yn galaru colled ofnadwy bywyd a’r gost anferth a fydd yn parhau i dyfu ym mywydau’r rhai a ddibynodd ar yr ysbyty hwn ar gyfer gofal a lloches.

Safwn mewn gweddi gydag arweinyddiaeth a staff yr ysbyty, sydd yn perthyn i’r Eglwys Anglicanaidd, a phob un sydd yn galaru. Parhewn i bledio dros warchodaeth dinasyddion, a sefydliad gwir heddwch. Arglwydd, yn Dy drugaredd, clyw ein gweddi.

Mae Bedyddwyr ar draws Israel a thiriogaethau Palesteina yn gofyn am weddi daer am heddwch a chyfiawnder.

Mae hyn yn cynnwys Cymanfa Eglwysi Beddydiedig Israel, sydd yn cynnwys 17 o eglwysi, a Chyngor Eglwysi Lleol Efengylaidd y Tir Sanctaidd, a gynrychiola 13 o eglwysi Bedyddiedig, gan gynnwys eglwys Feddydiedig yn Gaza.’

Gweddïwn yr addewid brydferth a welir yn Malachi: ‘y bydd haul cyfiawnder yn gwawrio, a iachâd yn ei belydrau’ (Malachi 4:2) dros bob un yn y rhanbarth, ac yn Ei fyd.

“Gweddïwn yr addewid brydferth sydd yn Malachi: ‘y bydd haul cyfiawnder yn gwawrio, a iachâd yn ei belydrau'”

Malachi 4:2

Ymunwch â ni, a theulu BWA mewn gweddi. Gallwch ddarganfod Canllaw Gweddi gyda phwyntiau gweddi penodol yma: Standing in Prayer for Israel and the Palestinian Territories | Baptist World Alliance

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »