Mae gan Gorfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru weledigaeth newydd ar gyfer adeiladau eglwys sy’n cau – un all osod seiliau ar gyfer tystiolaeth Fedyddiedig yng Nghymru i’r dyfodol.
Ers degawdau bellach, pan fydd achos eglwys yn dirwyn i ben, yr arfer yw bod Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru wedi gwerthu adeilad yr eglwys. Ond effaith hyn yn yr hir dymor yw ein bod wedi gwerthu asedau – weithiau am bris gymharol isel – a cholli cyfleon ar gyfer cenhadaeth a’r dyfodol wrth wneud. ‘Mae ychydig fel gwerthu creiriau’r teulu,’ meddai Helen Wyn, un o swyddogion y Gorfforaeth. ‘Mi all wneud synnwyr yn y tymor byr, ond os ydych chi eisiau meddwl am y degawdau sydd i ddod, siawns bod ffordd well o ddefnyddio’r eiddo?’
Yn sgil hyn, mae aelodau’r Gorfforaeth wedi datblygu strategaeth newydd, sy’n gofyn am gynnal asesiad potensial ar bob adeilad sy’n gymwys.1 Yn ddelfrydol, lle bydd eglwys yn ystyried cau byddant yn rhoi gwybod i’r Undeb o flaen llaw, a bydd y Gorfforaeth yn asesu potensial cenhadol a photensial masnachol yr adeilad – gyda’r ochr genhadol yn cael blaenoriaeth bob tro. ‘Oherwydd ffactorau o bob math, efallai cyn lleied ag un mewn pob deg safle y bydd modd i ni gadw,’ esbonia Helen Wyn, ‘ond y peth allweddol yw na fyddwn bellach yn gwerthu dim byd cymwys heb asesu’r potensial yn fanwl yn gyntaf.’
Mae’r potensial y gellid ei hadnabod yn eang iawn. Ar yr ochr genhadol, gobeithio y bydd modd dal gafael mewn rhai adeiladau ar gyfer gwaith Cristnogol newydd yno yn y dyfodol – boed ar ffurf eglwys, neu rywbeth amgen, cymunedol. Opsiwn arall yw bod adeilad yn medru rhoi cartre ar les i eglwys arall sy’n ddigartre ar hyn o bryd, neu i grŵp cymunedol lleol sydd am ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer côr, cylch meithrin ac ati. Wrth gwrs, bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r sefyllfa yn lleol er mwyn sicrhau nad ydym yn cystadlu gydag eglwysi eraill lleol ond yn buddsoddi yn hytrach yn yr ardaloedd hynny lle ceir y mwyaf o fudd o wneud.
Mae hefyd potensial masnachol yn perthyn i rai adeiladau – yn dibynnu wrth gwrs ar eu lleoliad a natur yr adeilad. ‘Rydyn ni’n archwilio’r posibilrwydd o greu cartrefi i bobl leol mewn cyswllt â rhai safleoedd (boed yn adeilad tŷ capel neu o bosib adeilad capel yn y dyfodol) ar hyn o bryd’, meddai Helen Wyn. ‘Ac mae’n bosib y bydd rhai llefydd – o gael eu gosod ar y les gywir am gyfnod o flynyddoedd yn medru talu nid yn unig am ei hun ond hefyd dechrau cyfrannu i’r angen dybryd i ariannu gwaith Cristnogol yn ein gwlad i’r dyfodol’.
Cyfrannodd aelodau’r eglwysi yn y gorffennol yn hael i godi’r adeiladau hyn, a ffordd o anrhydeddu hynny hefyd fydd ceisio gwneud defnydd da, gorau gallwn ni, o rai ohonynt i’r dyfodol. Gweledigaeth hir-dymor yw hon felly, a fydd, gobeithio, yn cyfrannu i barhad tystiolaeth Gristnogol Fedyddiedig mewn cymunedau ar hyd a lled ein gwlad.