Esgyn – trwy’r storm!

Unwaith eto ym mis Tachwedd fe aeth criw bach ohonom ati i drefnu penwythnos Esgyn i bobl ifanc, yn dilyn y bwrlwm a sbri a gafwyd yn ystod yr Esgyn cyntaf hynny ym mis Chwefror.   

Wrth i ni fynd ati i drefnu’r ail ddigwyddiad yma, does dim amheuaeth roedd yna bryder, er llwyddiant yr un diwethaf.  Ond, trwy fendith Duw a gwaith cenhadu gan y tîm yn eu hardaloedd fe ddaeth dros 40 o enwau mewn i swyddfa’r Undeb, rhai oedd yn dychwelyd eilwaith a rhai newydd, a phawb yn edrych ymlaen yn fawr i deithio i Dreharris.  

Mae sawl peth arbennig am Esgyn.  Pobl ifanc yn eu harddegau yn dod at eu gilydd i fwynhau ac addoli Iesu.   Arweinwyr ifanc brwdfrydig yn dangos i’r criw beth mae dilyn Iesu yn cynnig. Ac un peth arall sydd yn bwysig i’r criw cyfan yw’r ffaith bod Esgyn yn ddwyieithog a bod yna le i’r Gymraeg yn yr addoliad a’r gweithgareddau.   

Felly ar ddiwedd yr hydref daeth criw o bob rhan o Dde Cymru at ei gilydd i fwynhau penwythnos lawn dop o weithgareddau yng Nghanolfan Rock UK yn Nhreharris.  Do, fe ddaeth y dilyw drwy law ‘Storm Bert’, a phawb yn wlyb soc wrth iddyn nhw fynd ati i wneud y saethyddiaeth, mentro ar y rhaffau uchel a’r wal ddringo.  Ond er gwaethaf y tywydd, cofiwch, roedd yna ryw ysbryd arbennig yn y grwp yma a ddaeth ynghyd.  Pawb yn gwenu, chwerthin a mwynhau wrth iddyn nhw wynebu’r storm a ddaeth ar ein traws.   

Ond y tu hwnt i fwynhad y gweithgareddau, fe ddaeth teimlad o undod arbennig dros y grwp, yn bobl ifanc ac arweinwyr, yn ystod y sesiynau addoli.  Diolch i Tim am drefnu cyfleoedd i’r criw ifanc glywed hanes sawl un o’r rhai oedd yn arwain. Fe glywsom am eu cefndir ac hefyd eu taith i fod yn ddilynwyr i Iesu gan gynnwys stormydd bywyd oedd wedi eu taro.    

Daeth y criw ifanc i ddeall bod y bobl yma wedi bod drwy’r un problemau a gofidiau sydd gyda nhw.  Ond drwy ddod yn ddilynwyr i Iesu, drwy ymddiried yn ein Harglwydd mae yna obaith newydd.   A thrwy wrando ar Tim yn traddodi’r efengyl ar ddamhegion colled Iesu, ‘y ddafad, y darn arian a’r mab wnaeth fynd ar goll’, dangosodd fod pawb yn colli eu ffordd ar adegau, ond fod Iesu yna, yn chwilio ac yn barod i’n derbyn yn ôl, er ein bod yn crwydro wrtho.    

Ar ddiwedd y benwythnos fe aeth pawb adref o Dreharris gyda llawenydd yn eu calonnau a gobaith at y dyfodol.  

Does neb yn hollol siwr beth sydd i ddod i’r prosiect cyffrous yma, ond un peth sydd yn sicr, rydym yn teimlo bod Duw ar waith a’i fod wedi bendithio’r penwythnos cyfan, er gwaethaf y storm a ddaeth. Rydym yn gofyn i bawb weddïo am ddyfodol Esgyn, gan ein bod yn angerddol fod ganddo rhywbeth i gynnig i ddyfodol ein heglwysi yng Nghymru.  

Sian-Elin Thomas, Crymych 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau