Ffyrdd i gefnogi Wcrain

Mae dybryd angen ein gweddïau ar Wcráin. Y tu hwnt i hyn mae nifer cynyddol o ffyrdd o gefnogi drwy roi, y gallech dynnu sylw eich eglwys atynt: 
1.  Mae BMS yn cynnal apêl sy’n gysylltiedig ag eglwys y Bedyddwyr yn Wcrain yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am loches mewn gwledydd cyfagos: apêl BMS Wcrain – BMS World Mission 
2. Mae nifer fawr o elusennau cymorth yn y DU (gan gynnwys Cymorth Cristnogol a Tearfund) yn cynnal apêl o dan apêl DEC: Apêl Dyngarol Yr Wcráin | Pwyllgor Argyfwng y Rhagolygon (dec.org.uk)
Mae’r Apêl ar gael yn Gymraeg yma a manylion ynglyn a rhoi dros y ffon yma

Gofynnodd Igor Bandura, Is-lywydd Undeb Bedyddwyr Wcrain i ni basio hyn ymlaen i’n holl aelodau iddynt ei rannu mewn oedfaon bore Sul, pe hoffent wneud hynny: 

Ac mae BMS hefyd yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda gwybodaeth wrth eglwysi Wcrain a phwyntiau gweddi: Pray for Ukraine – BMS World Mission 

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am y Bedyddwyr ac eglwysi eraill yn Wcrain, a’r cyfraniad y maent yn ei wneud yn y sefyllfa ofnadwy yno. Gweddïwn felly dros holl drigolion Wcráin. Deisyfwn am ddoethineb a dewrder i greu heddwch ac i sicrhau cyfiawnder. ‘Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach’. (Eseia 2:4) 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »