Ffrwyth Gweddi

‘Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r eglwys yma yn gwneud yn wych,’ meddai *Steve wrth i ni rannu te yng nghaffi bore Iau Bethel yn Noc Penfro i sŵn bwrlwm cyson o weithgaredd. Roedd banc bwyd a phrosiect fareshare wedi bod ar agor drwy’r bore; i lawr y grisiau roedd band addoli’r eglwys yn ymarfer tra bod grŵp crefft yn rhedeg yn yr ystafell arall. Ond ddeng mlynedd fer yn ôl, roedd eglwys Bedyddwyr Bethel yn Noc Penfro wedi edwino i grŵp o wyth o aelodau oedrannus yn cyfarfod yn y festri. Mae’r trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn ddyledus, yn anad dim, i weddi ffyddlon. 

‘Dyw pethau ddim yn hawdd!’ meddai Mike Bave, bugail yr eglwys ers 2013, ‘dyn ni gyd yn gweithio’n galed yma! Ond rydyn ni mor ddiolchgar am yr hyn mae Duw yn ei wneud yn ein plith ac yn y gymuned hon.’ Bymtheg mlynedd yn ôl, pan oedd Mike – crwt lleol o Hwlffordd – yn dal i fugeilio yn UDA, roedd sgyrsiau’n digwydd ynghylch dyfodol yr eglwys, a sut beth fyddai cau iddyn nhw. 

Roedd y gynulleidfa fechan hon yn heneiddio ac adeiladau’r capel yn fawr ac mewn cyflwr oedd yn gwaethygu. Ond roedd un o’r diaconiaid, Maggie, wedi mynd adre ar ôl cyfarfod yn teimlo fod pwysau’n cael ei roi arnyn nhw fel eglwys i gau. Aeth i mewn a throi’r radio ymlaen. Roedd pregethwr yn siarad o Haggai, ac yn arbennig yr adnod sy’n dweud ‘mae fy nhŷ i’n ddiffaith’ (Haggai 1:4). Wedi ei herio gan hyn, penderfynodd Maggai weddïo – ac ymunodd gweddill yr eglwys i mewn. 

Roedd sawl rhwystr, ond dau amlwg oedd yr adeilad oedd yn pydru a’u hangen nhw am arweinydd – nid eu bod yn gallu fforddio trwsio’r cynta na thalu bugail. Ond fe wnaethon nhw weddïo i mewn i’r rhain a gwneud cais am fenthyciad o £40,000 gan Gronfa Adeiladu’r Bedyddwyr, a oedd, ynghyd â gostyngiadau gwyrthiol gan adeiladwyr, a drysau’n agor yn annisgwyl o ran statws rhestredig y capel, yn golygu bod pethau’n digwydd yn sydyn. Ar yr un pryd, roedd Mike a’i wraig Mary yn hapus yn arwain eglwys yn Boston yn America, heb feddwl yn y byd y byddai Duw yn eu harwain i Gymru eto. ‘Ond un tro dyma fi’n dechrau cyfres yn pregethu ar genhadaeth o lyfr Genesis,’ cofia Mike, ‘ac yn helaethu ar orchymyn Duw i ‘ddychwelyd i dir eich tadau’, sydd wrth gwrs hefyd yn rhan o anthem genedlaethol Cymru. Ailadroddais y bregeth honno dair gwaith y penwythnos arbennig yna cyn sylweddolais y trydydd tro bod hyn yn neges i ni!’ 

Ond doedd ganddyn nhw ddim syniad sut fyddai symud i Gymru yn bosib. I Mary byddai’n golygu delio â mewnfudo ‘r DU, a doedd gan enwad Mike yn yr Unol Daleithiau ddim eglwysi ym Mhrydain. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau annisgwyl a sgyrsiau siawns, dyma nhw’n canfod eu hun yn cael eu dangos o amgylch adeilad Bethel yn Noc Penfro ac yn sylweddoli’n bod Duw fel pe bai’n eu harwain yno. Syrthiodd y rhwystrau ymarferol i ffwrdd yn raddol – daeth y VISA, cwestiynau enwadol yn cael eu trafod a’u setlo, a hyd yn oed y cyllid ar gyfer y swydd yn cael ei ddarparu. Ac yn 2013, cafodd Mike ei sefydlu’n weinidog yr eglwys. 

‘Ers hynny rydym wedi bod wrthi’n adeiladu’n araf,’ mae Mike wrth fyfyrio. ‘Mae llawer o’n gweinidogaeth wedi ei adeiladu o gwmpas bwyd’ – yn ogystal â’r caffi a’r banc bwyd mae’r eglwys hefyd yn rhedeg bwyty talu-beth-allwch chi sy’n gweini cinio rhost bob wythnos, a digwyddiadau gwyliau ysgol i blant o’r dref, sy’n cynnwys digon o fwyd. ‘Mae hon yn ardal ddifreintiedig, ond mae ganddi gymuned gref. Rydyn ni wedi gorfod gwneud llawer o waith i wneud yr adeilad yn fwy croesawgar i bobl sydd jyst ddim wedi arfer gyda lleoliad capel hen ffasiwn ac wedi rhoi lifft i mewn i gael mynediad rhwydd i fyny’r grisiau, cypyrddau enfawr i’r banc bwyd a mwy.’ Ac mae angen gweddi o hyd – efallai y bydd proses 3 blynedd i wneud cais i gael gwared â’r rhesi caled o seddi pren yn agosáu at ei gwblhau, gyda chyfarfodydd allweddol yn digwydd yr hydref hwn. 

“Wrth gwrs mae’n bleser gweld yr eglwys yn tyfu’, meddai Mike gyda gwên dyner wrth iddo ddweud wrtha i eu bod nhw fel arfer dros 40 o bobl ar ddydd Sul erbyn hy. ‘Ond y llawenydd mwya yw gweld pobl yn dod i ffydd – dyna sail y cyfan i ni mewn gwirionedd.’ Mae’n rhyfeddol meddwl bod ffydd rhai o’r credinwyr newydd hyn yn ddyledus i raddau helaeth i weddi ffyddlon a pharhaus y grŵp bach o gredinwyr yr oedd Bethel wedi edwino iddo bymtheg mlynedd yn ôl – a’r hyn mae Duw wedi ei wneud gyda hynny. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »