Presenoldeb Cristnogol ar y Maes

Er bod yr haf yn draddodiadol yn amser tawel ar gyfer nifer o’n heglwysi, mae mis Awst hefyd yn golygu… yr Eisteddfod! Bydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn cael eu cynrychioli gan Cytûn eleni (ar y cyd gyda nifer o enwadau eraill yng Nghymru)…

Os hoffech baned a chyfle i ymwneud gyda chynnwys Cristnogol Cymraeg dros yr haf – yn ogystal â theisen gri! – ewch draw i ymuno â chriw Cytûn wythnos nesaf! Bydd yr Eisteddfod yn rhedeg o’r 3ydd – 10fed o Awst, ar y brif safle ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Bydd gan Cytûn stondin ar y prif faes, ond bydd y rhan fwyaf o’u gweithgareddau, lluniaeth a mwy yn digwydd yn Eglwys St Catherine’s, 5 munud o’r maes.

Am fwy o wybodaeth, cymrwch olwg ar y wybodaeth isod, ac ewch draw i dudalen Cytûn ar Facebook fydd yn cynnwys diweddariadau, yn ogystal ag amserlen. Gallwch hefyd fynd draw at wefan yr Eglwys yng Nghymru ble mae amserlen lawn a mwy o wybodaeth i gael.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn – trwy’r storm!

Mae sawl peth arbennig am Esgyn.  Pobl ifanc yn eu harddegau yn dod at eu gilydd i fwynhau ac addoli Iesu.   Arweinwyr ifanc brwdfrydig yn dangos i’r criw beth mae dilyn Iesu yn cynnig. Ac un peth arall sydd yn bwysig…

Darllen mwy »