“Dyrchafwn ein llygaid” – cyfarfod blynyddol y Senana

Daeth pobl o bob rhan o Gymru ynghyd i gapel Caersalem, Cilgwyn, ger Trefdfraeth sir Benfro ym mis Mai pan urddwyd un o aelodau’r eglwys yn llywydd Cenedlaethol Senana Cymru – rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd nôl yn 2020. Mae hanes Senana Cymru yn mynd nôl i 1906 ond oddi ar 1948, pan ddechreuwyd y drefn o’r Llywydd newydd yn torri enw ar Feibl y Mudiad, hon oedd yr wythfed waith yn unig i’r cyfarfodydd ddod i Sir Benfro. Ar gyfartaledd felly, rhyw unwaith bob deng mlynedd fydd llywydd yn dod o Gymanfa Penfro, ac eleni tro Bonni Davies, Penlanwynt, Cwm Gwaun oedd hi.

Agorwyd y cyfarfod gan Anne Lapage o Ruthin, llywydd presennol y Senana, cyn i’r Parchg Alwyn Daniels, gweinidog anrhydeddus yr eglwys estyn croeso cynnes i bawb i’r oedfa. Chwech o chwiorydd Caersalem, sef Joyce Evans, Enfys Howells, Menna James, Sandra Llewellyn, Marian Rogers ac Yvonne Williams fu’n gyfrifol am y defosiwn a bu dwy arall, Merryl Roberts a Glenys Williams, yn cyflwyno emynau.

Sefydlu’r Llywydd newydd ddaeth nesaf pan dorrodd Bonni ei henw ar Feibl Senana Cymru a chael ei harwisgo gyda thlws aur prydferth ar lun tywysen gwenith, wedi ei haddurno â pherlau. Tlws oedd hwn a roddwyd yn rhodd i’r Adran gan Mrs Evan Owen a fu’n drysorydd Senana Cymru rhwng 1906 a 1917. Cyflwynwyd Gweddi’r Urddo gan y Parchg Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru, cyn i’r llywydd newydd gyflwyno’r is-lywydd Menna Machreth Llwyd, Caernarfon. Estynnodd Menna groeso cynnes i bawb i Gaersalem Caernarfon ymhen y flwyddyn, pan fyddai’r drefn o gynnal dwy oedfa yn dychwelyd. Cyfyngwyd yr achlysur hwn i un oedfa yn unig oherwydd ansicrwydd yn dilyn y pandemig.

Pleser mawr i Bonni wedyn oedd derbyn siec o £5,860.00 o law’r Parchg Geraint Morse, i’w hanfon i Apêl Wcrain y BMS yn dilyn taith gerdded a drefnwyd ganddo. Dygwyd cyfarchion i’r llywydd newydd ar ran Senana Cymanfa Penfro gan yr ysgrifennydd Llinos Penfold, Mynachlog-ddu; ac ar ran Mudiad Chwiorydd Cymru gan y Llywydd, Eleri Lloyd Jones, Bangor. Cyflwynwyd adroddiad Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (BMS) gan Sarah East, Treforus, sy’n un o gynrhychiolwyr Cymru ar Gyngor Cyfeiriol y BMS; ac adroddiad ar ran Senana Cymru gan yr Ysgrifennydd, y Parchg Suzanne Roberts, sy’n byw yn Newbridge, Gwent.

Gan i’r llywydd newydd gael ei magu yn Nhydrath wrth odre Carn Ingli, byw yng nghysgod Foel Eryr am dros hanner can mlynedd ond gan barhau i fyw o fewn golwg i Garn Ingli, seliwyd ei hanerchiad ar adnod gyntaf Salm 121, “Dyrchafaf fy Llygaid i’r Mynyddoedd”. Rhannodd gyda’r gynulleidfa niferus brofiadau a ddaeth i’w rhan wrth fynd ar deithiau cerdded o amgylch y fferm dros gyfnod y ‘Clo Mawr’ yn ystod pandemig Covid-19. Daeth i sylweddoli fel yr oedd Mynydd Carn Ingli wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed, bod Duw hefyd wedi bod yno iddi erioed ar hyd ei thaith. Cymharodd gadernid y mynydd i gadernid ei ffydd yn Nuw gan annog y gynulleidfa, yn yr oes ansicr yr ydym yn byw ynddi, i fod yn gadarn fel y mynyddoedd. Anogodd y gynulleidfa hefyd wrth godi eu llygaid i’r mynyddoedd i godi ei llais i sefyll i fyny dros yr hyn sy’n gyfiawn mewn byd hynod o hunanol gan wneud beth mae Duw am i ni wneud a beth mae Duw am i ni fod. Y ffordd orau o wneud hynny oedd wrth bwyso ar Dduw yn ein gweddïau gan mai oddi yno y daw ein nerth. Diweddodd drwy herio pawb i barhau i ddyrchafu eu llygaid i’r mynyddoedd, i gofio wrth wneud hynny o ble daw ein cymorth; i fod yn gadarn yn ein ffydd fel cadernid y mynyddoedd; i godi llais dros yr hyn sy’n gyfiawn ac yn gywir; ac yn fwyaf arbennig ac yn fwyaf pwysig, i aros yng nghwmni ein Gwaredwr, i siarad ag Ef ac i wrando ar Ei lais gan mai “Sircach na’r mynyddoedd yw ei eiriau Ef”.

Y Parchg Sian Elin Thomas, gweinidog newydd Ebeneser Dyfed, Y Graig Castellnewydd Emlyn, a chaplan rhan amser Glyn Nest, ddaeth â’r oedfa i’w therfyn mewn gwreddi. Daeth prynhawn hyfryd a llawen i ben drwy gymdeithasu o gwmpas y byrddau ym Maenordy Llwyngwair o ble y dywedir i William Williams Pantycelyn ysgrifennu’r emyn “Dros y bryniau tywyll niwlog” – diweddglo addas iawn i thema’r oedfa. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »