Dod i nabod: Janet Matthews

Mae yna bobl o bob math yn ein heglwysi, a storiau gwahanol o sut mae Duw wedi gweithio yn eu bywydau. Y tro hwn, dyma gwrdd ag un sy’n weithgar iawn yng Nghymanfa Brycheiniog…

Hyfryd i gwrdd â chi, Janet! Felly sut daethoch chi i ffydd a dod i Frycheiniog? 

Wel, cefais fy magu ym Mryste fel Eglwyswraig mewn gwirionedd! Ac er gwaethaf cael fy nghadarnhau pan oeddwn yn fy arddegau, fe wnes i ddrifftio i ffwrdd. Ond wedyn dyma fi’n cwrdd â fy ngŵr, Terry, oedd yn dod o Flaenafon ac roedd ganddo alwad clir i fynd i weinidogaeth Fedyddiedig. Felly newidiodd hynny fy mywyd! Cyrhaeddom Sir Frycheiniog ar ddechrau’r wythdegau, gyda phump eglwys wledig yn ffurfio ardal weinidogaeth i Terry. Cefais fy ngwaith llawn-amser fy hun fel gweithwraig gymdeithasol a swyddog datblygu cymunedol, ond fe wnes i gymryd rhan fawr mewn gwaith ysgol Sul a gwaith plant yn y capeli. 

Ac rydych chi hefyd wedi cael rôl ehangach yn y weinidogaeth hefyd dros y blynyddoedd diwethaf? 

Fe wnes i gyfrannu’n fawr i fywyd fy nghapel fy hun, lle dwi bellach yn ysgrifennydd, pan ddechreuon ni brosiect adeiladu ddegawd yn ôl. Mae ein capel ni mewn llecyn diarffordd yn y mynyddoedd, ond mae’n lleoliad mor brydferth! Felly roedden ni eisiau troi stabl yr hen weinidog (!) i mewn i ofod y gellid ei ddefnyddio gan yr eglwys a’r gymuned. Yna, rwy hefyd yn gwasanaethu gydag Ymddiriedolaeth Weinidogaeth Sir Frycheiniog, sydd wedi gwneud llawer o wahaniaeth yn y cylch hwn- ac yna wedi cael yr anrhydedd o wasanaethu fel Llywydd UBC! 

Beth sydd wedi dy galonogi di ym mywyd yr eglwys? 

Wel, roedd cael mynd i gynhadledd y Bedyddwyr Ewropeaidd pan o’n i’n Llywydd mor gyffrous i mi. Oherwydd bod pobl yno o bob man a dyma brofiad gwirioneddol o sylweddoli beth mae’n golygu bod ein capeli bach ni yn rhan o eglwys fyd-eang. Roedd cymaint o wahanol fynegiannau o’r eglwys, a lleisiau a chefndiroedd. Roedd cwrdd â rhai o’r bobl hyn yn gwneud i mi sylweddoli’n iawn am y tro cyntaf y rhyddid sydd gennym i addoli, a sut rydyn ni wir yn cymryd hynny’n ganiataol. Dwi’n meddwl mai’r peth arall yw’r gefnogaeth ges i gan bobl yr eglwys pan fu farw Terry. Fe wnaeth hynny gymaint o wahaniaeth ac rwy’n credu bod gan eglwysi ran enfawr i’w chwarae ym mywydau pobl. 

Diolch. Pa arwyddion o obaith wyt ti’n ei weld wrth edrych ymlaen? 

Yn ein Cymanfa rydym yn edrych ymlaen yn aruthrol at gael Paul a Robyn Smethurst yn dod atom (gweler t.6) – rydym wir yn llawn gobaith am hynny! Bychan iawn ydym o ran nifer ac wedi ein gwasgaru o gwmpas dros ddwsin o gapeli gwledig. Ond rydyn ni’n teimlo bod Duw yn ein harwain i’r bennod newydd hon, sy’n gyffrous! 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau