Braf cael sgwrs, Gwyn. Allech chi rannu ychydig gyda ni am eich stori bywyd a ffydd?
Ces i fy ngeni a’m magu yn Nhrecynon, Aberdâr. Bum yn selog yn Eglwys Fedyddiedig Noddfa, Trecynon. Ces i fy addysg yn Ysgol Gymraeg Ynyslwyd, Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydfelen., Pontypridd. Es i Goleg y Drindod, Caerfyrddin rhwng 1973 -76 a llwyddais i gael tystysgrif athro. Bues i’n athro yn Ysgolion Cynradd Gilfach Fargoed; Ynyswen, y Rhondda Fawr ac yn Ysgol Gymraeg Ynyslwyd, Aberdâr.
Dw i’n awdur i blant a dw i wedi cyhoeddi i sawl cyfrol o farddoniaeth. Ces i fagwraeth hynod wrth fod yn unig blentyn ac yn gannwyll llygad i fy rhieni. Dioddefodd fy nhad yn arw o glefyd y llwch a dylanwadodd hwnnw arna i’n fawr. Sylweddolais i bryd hynny bod bywyd yn fregus a byr.
Mireiniodd fy ffrindiau oedd yn anffyddwyr fy nghred i’r dim. Dw i’n hynod ddiolchgar iddyn nhw. Felly bu Cristnogaeth yn ganolog i fy mywyd ers hynny. Roedd hi’n gyfle imi ddyfnhau fy mhrofiad o gariad tragwyddol Duw tuag ataf a thuag at bawb.
Daw geiriau efelychiad Ieuan Glan Geirionydd yn fyw ataf yn ei emyn Ar lan Iorddonen ddofn:-
Paham yr ofnaf mwy/Yduw a’i daliodd hwy/A’m harwain innau drwy/Ei dyfroedd dyfnion.
Fe’m dylanwadwyd yn fawr gan fy mhartner sy’n cydweithio a mi ar ein llyfrau i blant (Dai Owen) – mae’n Grynwr o argyhoeddiad dwfn. Dysgodd e bod y dwys ddistawrwydd yn lwyfan i weithredu dros heddwch a chyfiawnder. Byddwn fel Bedyddwyr yn addoli hefyd ar gyfer gweithredu a dod a theyrnas Dduw yn agos at y gwan a’r anghennus.
Mae nifer o gapeli Cymraeg eu hiaith wedi dod at ei gilydd ar Hirwaun a Phenderyn i addoli ddwywaith y mis. Dw i’n cael bendith mawr o’r gymdeithas honno. Ry’n ni’n weithgar yn y gymuned gyda codi sbwriel, y banc bwyd a threfnu nosweithiau llawen.
Beth yw’r gwersi pwysicaf yr ydych chi’n teimlo i chi ddysgu dros eich bywyd?
Mae ergyd y damhegion a gwirioneddau’r gair yn crisialu dyfnder fy mhrofiad o fod yn rhan o gymdeithas. Mae cariad Duw yn ein dwysbigo i weithredu ar ei ran. Dw i’n cael hi’n anodd i gredu yng Nghrist y brenin yn dod ar gymylau, ond gallaf gredu yng Nghrist y brawd, y cydbererin – nawrte mae hwnnw’n real. Mae’n uniaethu â ni yn ein gwendidau. Mae’n rhaid i’r Gair wneud synwyr ymarferol imi o sut i faddau ein gilydd, sut i nabod Duw drwy Grist, dyma gydnabod y Crist sydd ynom ac yn eraill. Credaf nad rhywbeth yn hanes yn unig yw’r ysgrythur ond mae Duw yn ei ddatguddio ei hun heddiw.
Fel un sy’n dwli yn hiwmor Monty Python, Y Brodyr Marx, Spike Milligan, y Goons ac ati ac sy’n cael llawer o bleser wrth wrando Jazz – maen nhw’n ymestyn ffiniau cred i mi i glymu grymysterau gwahanol iawn i’w gilydd mewn undod. Dyma’r ysbryd sy’n sibrwd bod tangnefedd a direidi Duw ynom o hyd.
Beth yw eich gweddi ar gyfer y dyfodol yn Aberdâr, ac yng Nghymru?
Fy ngweddi yw i hedyn y Gair egino yng nghalonnau a meddwl y ddynoliaeth a’r chwaeroliaeth ac i hwnnw ddwyn ffrwyth cyfiawnder, tangnefedd, goleuni, addfwynder, parch at eraill, cyfeillgarwch mynwesol, tosturi ac ysbryd o faddeuant – neu mewn geiriau eraill, Crist ynom.