Dod i nabod… Bethan a Richard Jones

Yn y rhifyn hwn o ‘Dod i Adnabod’, dyma wrando ar hanes Bethan a Richard Jones, sy’n weithgar iawn yn eu cymuned yn y Gogledd-Ddwyrain a bro’r Eisteddfod eleni…

Hyfryd cwrdd â chi, Bethan a Richard! Allwch chi rannu gyda ni rywfaint o’ch teithiau ffydd?

Bethan: Ges i fagwraeth capel ac eglwys hapus iawn, yn mynd i Ainon, Dolywern y Bedyddwyr ac i eglwysi o enwadau eraill hefyd gydag aelodau o’r teulu! Mae’r ysbryd eciwmenaidd yn gryf ynof i erioed yn yr ystyr yna.

Richard: Magwyd fi mewn teulu Cristnogol hefyd, a ches i ‘medyddio o dan weinidogaeth Parch Gwilym Tilsley yn y Rhyl. Cefais fy annog i chwarae’r organ o oedran ifanc, ac mae’r emynau Cymraeg wedi bod yn ddylanwad arna i erioed. Cefais brofaid ehangach o ffydd pan yn fyfyriwr ym Manceinion, lle roedd cyfle i fynychu’r eglwys oedd yn rhan o’r neuadd breswyl.

Rydych chi ynghlwm â bob math o bethau yn eich bro – allwch chi roi blas i ni?

Bethan: Dwi’n ysgrifennydd bellach ar Gapel Unedig Seion, Glyn Ceiriog! Athrawes ydw i wrth fy ngwaith a dwi wedi mwynhau gweithio gyda phlant erioed. Dwi’n helpu gyda’r Eisteddfodau lleol, yn rhedeg Ysgol Sul yn ein capel ni a threfnu gwasanaethau teuluol.

Richard: Athro ydw i wrth fy ngwaith hefyd. Ges i arweiniad rai blynyddoedd yn ôl i hyfforddi fel pregethwr cynorthwyol ac ers hynny dwi’n gwasanaethu mewn eglwysi ar draws pob enwad ac yn cael boddhad wrth wneud. Dyna i chi’r nodyn eciwmenaidd gyda ni eto!

Beth sy’n codi eich calon o fis i fis o ran eich ffydd?

Bethan: Efallai mai’r cydweithio sy gyda ni o ran pethau’n lleol. Mae yna dîm ynghlwm â’r gwaith, pobl â galluoedd gwahanol yn cyfrannu, a hynny’n wir am ein hoedfaon a’r Ysgol Sul – er nad oes yna ddim gweinidog gynnon ni. ‘Swn i’n dweud bod ffyddlondeb yr aelodau wir yn codi calon. Gobeithio wrth hau hadau y daw i ffrwyth maes o law!

Richard: Ar hyn o bryd dwi wir yn edrych ymlaen at y fraint o gael chwarae’r organ yng Nghymanfa Ganu Eisteddfod Wrecsam ym mis Awst! Mae hynny’n cau pen y mwdwl hyfryd i mi gan fod Gwynfor Jones, fy athro organ cyntaf, o gapel fy magwraeth wedi gwneud hynny yn Steddfod Y Rhyl 1985. Dwi wedi ‘nhrwytho a dweud y gwir yn y traddodiad emynyddol – Cymraeg a thu hwnt (Bach ayyb). Mae yna drysorau yno ac mae’n rhoi dimensiwn arall ar fy ffydd i mi, sy’n bwysig iawn.

Diolch yn fawr i chi eich dau, a phob bendith ar eich gwaith diwyd ac ar fywyd Eglwys Unedig Seion Glyn Ceiriog.

Gellir dilyn a chlywed yr hyn sydd yn digwydd ym mywyd Eglwys Unedig Seion Glyn Ceiriog ar eu tudalen Facebook: Eglwys Unedig Seion Glyn Ceiriog

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »