Mae yna bobl o bob math yn ein heglwysi, a storiau gwahanol o sut mae Duw wedi gweithio yn eu bywydau. Y tro hwn, dyma gwrdd ag un o’n hymddiriedolwyr fel Undeb, un weithgar dros ben…
Diolch am y sgwrs, Ann. Sut fath o fagwraeth gest ti felly ac yn lle?
Magwraeth Gristnogol a Chymraeg oedd hi, yn Rhyl ar arfordir y Gogledd. Roedd cefndir Bedyddiedig gyda Mam ond Annibynwr oedd nhad, ac felly i Carmel, Eglwys yr Annibynwyr yr aethon ni fel teulu. Ro’n i’n ffodus o fynychu Ysgol Glan Clwyd yn ei dyddiau cynnar hefyd.
Ac ai trwy hynny y dest ti’n Gristion? Sut fyddet ti’n disgrifio dy daith fel Cristion wedi hynny?
Wel, mi oedd yn gefndir trwyadl Gristnogol, ond wedi gadael gartre mi wnes i wrthgilio mewn gwirionedd. Ond yna pan oeddwn yn fyfyriwr yn yr ail flwyddyn roedd Undeb Cristnogol gweithgar iawn ym Mangor, a thrwy eu tystiolaeth nhw y derbyniais i Iesu fel gwaredwr. A phroses raddol o dyfu fel Cristion wedyn, trwy wahanol bethau. Dwi’n cofio cyfnod hyfryd iawn er enghraifft pan fuon ni’n byw ym Mhenygroes, ger Rhydaman a’r gwr yn weinidog yn Nghalfaria., Tabor a Phenrhiwgoch. Roedd dylanwad yr Apostoliaid yn gryf yno a ges i’r fraint o weld llawer o’r ieuenctid yn dod i gredu a bwrlwm ar yr addoli.
Dyna beth yw gwefr. Ac mi ydych chi wedi cario baich dros y to iau ar hyd eich oes, on’d ydych?
Wel, do. Athrawes oeddwn i yn fy ngyrfa, yn dysgu mewn ysgolion cynradd yn Llandudno ac yna yma yn Llambed. A dwi’n dal i ddysgu i raddau, ond Cymraeg i oedolion yw’r maes erbyn hyn.
Rwyt ti’n weithgar iawn yn dy fro yn yr eglwys ac yn y gymuned.
Mae Llambed yn lle clos iawn, ac rydyn ni’n ffodus hefyd yn yr eglwysi lle mae Densil fy ngwr yn weinidog. Cylch o chwech o gapeli, a dwi’n ceisio bod ynglŷn â’r gwaith i gyd fel y galla i. Noddfa, Llambed yw’r capel lle dwi’n aelod a fi hefyd yw’r ysgrifennydd ac un o’r organyddion yno. Mae’n dda wedyn cael cyfrannu i’r gymuned ehangach ar gyngor y dre a’r ganolfan Deuluol– a do, ges i’r fraint arbennig o fod yn Faer yn 2018-19 hefyd! Mae trefnu gweithgaareddau drwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi.
A beth yw dy rôl diweddaraf o fewn yr Undeb a dy weledigaeth yno?
Gofynwyd i mi gymryd yr awennau fel Llywydd y Gymanfa ar gyfer eleni. Dod i mewn ar ddiwedd cyfnod Covid wnes i, ac mae heriau yn sgil hynny. Ond rydyn ni wedi gweld ffrwyth hefyd, er enghraifft cyfres o gyfarfodydd gweddi zoom sy’n dal i fynd, a sy’n ffordd dda o ddod â phobl ynghyd ar draws ardal ddaearyddol eang iawn. Mae’n dda gweld wynebau newydd yn dod i rheiny, ac mae’n fodd o adeiladu undod rhyngom.
Sut gallwn weddïo drosoch chi a’ch gwaith, Ann?
Gweddïwch am weithiwr ieuenctid i ni yma yn ardal Llambed; mae Cadwyn Teifi yn ei lle a rydym wedi hysbysebu heb lwyddiant hyd yn hyn. O ran y Gymanfa, gweddïwch dros sefyllfa’r ysgolion Sul a ‘r genhedlaeth goll ac yna o ran yr Undeb bydd angen dau ymddiriedolwr newydd arnom eleni! Diolch.
Ydych chi’n nabod rhywun allai fod a diddordeb mewn gwasanaethu fel ymddiriedolwr gyda ni? Ebostiwch judith@ubc.cymru am sgwrs.