Diwrnod symud i mewn yn cyrraedd o’r diwedd ar gyfer ‘Y Ffowndri’

Rydym yn falch iawn o glywed bod Jon & Emma Birch wedi symud i’w cartref newydd o’r diwedd! Ar ôl blynyddoedd o ddyfal weddïo, chwilio ac aros am y tŷ iawn mae eu gweledigaeth wedi cymryd cam mawr ymlaen.

Dyma gyflwyno’r teulu Birch…

Dros y pedair blynedd diwethaf mae Jon ac Emma wedi rhannu gyda UBC weledigaeth i sefydlu tŷ cymunedol cenhadol lle gall Cristnogion fyw gyda’i gilydd i fod yn fendith ac yn dystion i’r gymuned gyfagos. Gyda chefnogaeth Cymdeithasau Bedyddiedig lleol (Dwyrain Morgannwg a SWBA) dechreuon nhw’r broses hir o weithio trwy’r holl fanylion ymarferol a chyfreithiol.

Yn y pendraw, fel elusen gofrestredig ffurfiol gydag Ymddiriedolwyr mewn lle, roedd modd iddynt wneud cais i Gorfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru a gytunodd i fenthyg yr arian i brynu eiddo yn ardal Tonteg lle mae’r teulu yn aelodau gydag Eglwys y Bedyddwyr Salem.

Mae Jon ac Emma yn disgrifio’r cyfnod hwn o aros ac ymbaratoi …

Y ddwy thema fawr rydym wedi bod yn gweithio drwyddynt gyda Duw dros y blynyddoedd diwethaf yw ufudd-dod a dyfalbarhad. Mae’n debyg mai ein her fwyaf wrth geisio dilyn Duw gyda’r weledigaeth hon oedd ein bod yn gwybod beth roedd e’n ein galw i’w wneud, ond nid manylion sut, na pha mor hir y byddai’n ei gymryd.

Ar sawl pwynt ar hyd y daith hon rydym wedi dod i fyny yn erbyn rnhwstrau mawr, ond bob un tro mae Duw wedi agor ffordd i ni barhau, ac i sefyllfaoedd sy’n ymddangos yn amhosibl gael eu troi o gwmpas. Rydym hefyd wedi cael ein calonogi’n fawr gan Gristnogion eraill yr ydym wedi cwrdd â nhw ac wedi gweddïo â nhw, sydd wedi rhannu ysgrifau ac anogaethau sydd wedi siarad yn uniongyrchol â’n sefyllfa a hynny heb wybod am ein hamgylchiadau.

Wrth edrych yn ôl, mae amseriad Duw yn ymddangos yn berffaith. Wrth i ni ddechrau’r rhan ymarferol newydd hon o’r weinidogaeth hon drwy’r tŷ cymunedol cenhadol hwn, rydym yn gwneud hynny yn dilyn ehangiad dramatig gweinidogaeth banc bwyd ein heglwysi yn ystod y cyfnod clo. Nid gor-ddweud yw dweud ein bod wedi meithrin mwy o berthnasoedd a chysylltiadau yn ein cymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf na’r tair blaenorol gyda’i gilydd, ac mae’n gyffrous meddwl sut y bydd Duw yn defnyddio’r rhain ar gyfer cenhadaeth.

Ar ôl edrych ar nifer o dai addas, ar ddiwedd 2020 daethant o hyd i un gyda digon o le i ymgysylltu â’r gymuned leol drwy letygarwch a darparu ar gyfer Cristnogion eraill sy’n rhannu’r weledigaeth ac a fydd yn ymuno â nhw yn ‘Y Ffowndri’.

Mae Jon ac Emma yn siarad am y camau nesaf a sut y gallwn ni weddïo drostynt…

Yn ystod y misoedd i ddod, byddwn yn chwilio am Gristnogion i ymuno â ni fel cyd-letywyr tymor byr a thymor hir, i fod yn rhan o gymuned fwriadol gyda rhythm dyddiol ac wythnosol o rannu bwyd, gweddi a lletygarwch. Ein nod yw creu awyrgylch yn y gymuned sy’n cefnogi dirnadaeth ac yn rhyddhau pobl i ymuno â Duw ar genhadaeth. Gweddïwch fod Duw yn rhoi’r cysylltiadau i ni gwrdd â’r bobl iawn i ymuno â ni yma.

Rydym hefyd yn ceisio mynd ar drywydd cenhadol drwy fenter gymdeithasol (busnes elusennol) yn y gymuned. Fel elusen ein hunain, gallwn gael gafael ar ystod o gyllid i wneud hyn, ond mae angen help Duw arnom i’n cysylltu â’r bobl iawn sydd â phrofiad busnes i helpu’r weinidogaeth hon i ffynnu.

Gweddïwch hefyd am fendith Duw ar y busnes ymarferol iawn o ddodrefnu’r tŷ cymunedol ac y gellir gwneud y gwelliannau ymarferol y mae angen i ni eu gwneud cyn gynted â phosibl!

Gweddïwch dros Jon ac Emma wrth iddyn nhw gymryd y camau arloesol beiddgar hyn gyda’i gilydd a gofynwch i Dduw eu bendithio fel teulu yn ystod y misoedd nesaf.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »