Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn falch o gadarnhau eu bod yn derbyn cynnig y gymuned a gyflwynwyd gan Rhian Hopkins a’i thîm ymroddedig ac am weithio gyda hwy i sicrhau ffordd dderbyniol ymlaen er mwyn cyflawni amcanion y prosiect ariannu torfol. Bydd y capel hanesyddol hwn, a restrwyd fel Gradd II, gyda’i gysylltiad arbennig fel man geni’r emyn-dôn annwyl “Cwm Rhondda” yn aros yn nwylo’r gymuned, sy’n gwbl briodol.
Cymuned Unedig trwy Ffydd a Threftadaeth
Cawsom ein cyffwrdd yn ddwfn gan yr ymateb eithriadol i’r ymgyrch hon, a oedd yn fynegiant o’r cyswllt pwerus rhwng pobl Cymru ac yn fyd-eang â’r capel hwn. Mae’r apêl ariannu torfol, a ddechreuodd gyda chefnogaeth gan gymunedau lleol, wedi ennill calonnau. Mae’r ymateb cadarnhaol hwn yn adlewyrchu apêl eang yr emyn-dôn a ganwyd yn gyntaf o fewn muriau’r capel ym mis Tachwedd 1907.
Anrhydeddu ein Treftadaeth Gristnogol
Mae geiriau “Cwm Rhondda” – “Arglwydd arwain drwy’r anialwch fi, bererin gwael ei wedd” yn sôn am y daith ysbrydol sy’n parhau o fewn ein cymunedau heddiw. Cyfansoddwyd yr emyn-dôn gan John Hughes yn 1907 ar gyfer cysegru organ y capel ac fe ddaeth yn anthem answyddogol Cymru ac yn ffynhonnell o gysur ac ysbrydoliaeth i nifer fawr o bobl.
Cefnogi Gweledigaeth y Gymuned
Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo’r weledigaeth a fynegwyd gan Rhian Hopkins a’r gymuned leol i ddiogelu’r “llinyn gwerthfawr hwn sy’n ein cysylltu ni â’n cyndeidiau”. Rydym hefyd yn cydnabod ac yn dathlu’r angen parhaus am ofod lle gall cymunedau ymgynnull, myfyrio, a dod o hyd i gyswllt ysbrydol.
Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn cydnabod cynlluniau’r gymuned i:
• ddathlu treftadaeth gerddorol Gymreig gyfoethog y Capel
• ddarparu gofod cymunedol sy’n gwasanaethu anghenion lleol o fewn cyd-destun y Rhondda
Tystiolaeth i Ysbryd Cymunedol
Mae’r ymgyrch hon yn enghraifft ragorol o ysbryd cymunedol ac o weithredu ar y cyd. O’r sylw cyntaf ar Facebook gan Rhian Hopkins i’r ymateb rhyngwladol yn dilyn ei osod ar lwyfan cyfryngau ehangach, rydym wedi bod yn dyst i’r hyn y gall ymrwymiad a rennir i ddiogelu ein treftadaeth Gristnogol uno pobl ar draws terfynau daearyddol a diwylliannol.
Rydym yn cydnabod yn arbennig gyfraniad cefnogwyr lleol, cerddorion Cymreig a roddodd eu lleisiau i’r ymgyrch, a’r unigolion niferus a welodd y gwerth mewn diogelu Capel Rhondda.
Fel Undeb Bedyddwyr Cymru, rydym yn ddiolchgar am flynyddoedd o wasanaeth ffyddlon y cynulleidfaoedd a addolai yng Nghapel Rhondda. Er i’r dirywiad yn y nifer o aelodau ffyddlon arwain at y penderfyniad anodd o gau’r capel ym mis Rhagfyr 2024, rydym yn falch bod ei ddyfodol bellach wedi’i ddiogelu trwy berchnogaeth gymunedol. Trwy’r fenter hon bydd Capel Rhondda yn parhau i wasanaethu fel goleudy gobaith ac yn dystiolaeth i rym parhaol ffydd, cerddoriaeth, yr iaith Gymraeg a’r ysbryd cymunedol. Bydd neges geiriau Williams Williams Pantycelyn yn parhau i atseinio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Undeb Bedyddwyr Cymru yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin.
Rhif Ffôn: 0345 222 1514