Mae’n bleser gennym cyhoeddi ein bod bellach wedi codi £8,031.02 dros fisoedd y gaeaf ar gyfer apêl EBF: Hope Heats!
Fe wnaeth Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop (EBF) lawnsio apêl dros fisoedd y gaeaf, i gefnogi’r Eglwys yn Wcráin. Y nod oedd bod 500 o eglwysi lleol yn Wcráin yn cael eu galluogi i ddarparu llety, cynhesrwydd a nwyddau angenrheidiol i bawb mewn angen y gaeaf hwn. Fel teulu Bedyddiedig yng Nghymru, roedden ni am chwarae ein rhan trwy godi arian ar gyfer ein chwiorydd a’n brodyr sydd yn parhau i ddioddef effeithiau rhyfel, yn enwedig rhai sydd yn ymwneud â thargedu adnoddau egni holl-bwysig.
Byddai rhodd o £2000 o eglwysi Bedyddiedig yng Nghymru wedi bod yn ddigon i ddarparu digon o wres ar gyfer eglwys yn Wcráin ar gyfer y gaeaf i gyd. Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi codi digon o arian i gefnogi 4 o eglwysi trwy’r gaeaf hwn!
Mae’r arian wedi mynd yn uniongyrchol at gefnogi eglwysi yn Wcráin a fu’n ymddwyn fel lloches, mannau diogel, a chanolfannau cynnes dros y gaeaf, ac i’r gwanwyn. Bu’r gaeaf yr un caletaf yn Wcráin ers blynyddoedd lawer – felly mae’r rhoddion o dros Ewrop i gyd yn holl-bwysig.
Fel ymateb i’n rhoddion, rydym wedi cael ein partneru gyda 4 eglwys yn Wcráin.
Yr eglwysi hynny yw: The Ark of Salvation, Evangelical Christian Baptist Church ‘Golgotha’, Evangelical Christian Baptist Church of the City of Khmilnyk, The Ark of Hope. Gofynnir i ni gadw’r 4 eglwys a’r gweinidogion yn ein gweddiau wrth iddynt barhau i wasanaethu’r cymunedau o’u cwmpas trwy’r rhyfel sy’n parhau.
Diolch o galon i bob un eglwys ac unigolyn sydd wedi cyfrannu mor hael at yr apêl!