Datganiad ar Wcrain

“Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn arswydo at ymosodiad Rwsia ar drigolion Wcráin.  Gwerthfawrogwn bod NATO wedi ymatal rhag codi arfau milwrol yn erbyn byddin Rwsia, a defnyddio dulliau di-drais i ddangos eu dicter a’u gwrthwynebiad chwyrn yn erbyn y rhyfel.   

Galwn ar Rwsia i adael Wcráin ar unwaith, drwy ysgrifennu at Lysgennad Rwsia a llongyfarch pob ymdrech o Gymru a thu hwnt i estyn pob cefnogaeth dyngarol posibl i’r ffoaduriaid sydd wedi gadael Wcráin, ynghyd ag estyn meddygaeth a bwyd i ddioddefwyr y wlad.   

Dylai’r DU sicrhau ffordd syml ddi-rwystr i drigolion Wcráin sydd am loches yn ein plith, a hefyd gyfrannu at sefydlu llochesi safonol yn y gwledydd cyfagos i Wcráin.    

Anogwn eglwysi ein hundeb i weddïo am heddwch, ac i drefnu casgliadau ariannol i’w hanfon, drwy law naill ai DEC neu y BMS. ar fyrder i uniaethu ein hunain gyda’r sawl sydd wedi dioddef yn dilyn yr ymosodiad milwrol hwn.”

Derbyniwyd y Datganiad hwn gan Gyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru ar 23ain Mawrth 2022. Mae’r Cyngor Unedig yn gorff cynrychioladol ar gyfer Cymanfaoedd ac Eglwysi Bedyddiedig ar draws Cymru, ac fe’i danfonir i Lywodraethau Prydain a Chymru.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »