Cynhadledd Gweinidogion Cymru Gyfan 2022

Gwahoddir gweinidogion o bob cwr o Gymru i ymuno yn y gynhadledd hon ar y 7fed a’r 8fed o Chwefror 2022 ar gyfer y sawl sy’n gweini yn eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru a Chymanfa Fedyddiedig De Cymru, caplaniaid a Choleg Bedyddiedig Caerdydd. Bydd y gynhadledd arlein bellach gyda deuddydd o ddysgu ac encil yng nghwmni Helen Paynter, Andy Percey a John Archer. Bydd sesiynau dydd Llun yn rhedeg rhwng 10:30 a 3yh a’r Mawrth rhwng 10 ac 1 yh.

A fyddech mor garedig a llenwi’r ffurflen (isod) a’i ddychwelyd? Gobeithio bydd yr holl wybodaeth angenrheidiol yn yr atodiad, ond os bydd cwestiynau pellach gennych, cysylltwch a Chymanfa Bedyddwyr De Cymru (office@swba.org.uk), ac fe fyddant yn medru eich helpu.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Caffi yn y festri

Wrth gerdded i mewn i festri capel Tabor ym mhentre Dinas ar arfordir Gogledd Penfro, cewch wledd i’r llygaid sy’n gwbl wahanol i unrhyw festri arall yng Nghymru. ‘Ers y gwaith i drawsnewid yr adeilad, mae’r caffis sy wedi bod ma wedi bod yn llewyrchus dros ben – y lle yn aml wedi bod yn llawn dop!’ esbonia…

Darllen mwy »