Cyhoeddi rhaglen ‘Gweddi, Gŵyl a Hwyl!’

Bydd ein diwrnod ‘Gweddi, Gŵyl a Hwyl’ ar ddydd Sadwrn 25ain (10am-4pm), a gynhelir ar y cyd â SWBA, Coleg Bedyddwyr Caerdydd a BMS, yn ddiwrnod arbennig i deulu cyfan y Bedyddwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o amgylch y thema ‘Clywed Llais Duw’.

Bydd y diwrnod cyfan yn addas i deuluoedd gyda gweithgareddau i bob oedran a chyfle i adnewyddu cyfeillgarwch gyda hen ffrindiau a newydd. A bydd sesiynau ‘dyfnach’ o gylch clywed llais Duw yn ein gilydd, yr eglwys fyd-eang a hanes. Cost tocyn oedolyn fydd £12 a phlant am ddim. Yn ysbryd yr Eisteddfod mae’r diwrnod yn cynnig dewis i chi fynychu cymaint neu cyn lleied o weithgareddau ag y dymunwch gyda’r pwyslais ar ‘ddod at ein gilydd’: 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »