Ar ddiwedd 2022, daeth canlyniadau diweddaraf y cyfrifiad, gan ddangos am y tro cyntaf bod o dan hanner y bobl yng Nghymru yn galw eu hunain yn Gristnogion – a’r ganran yna o 43.6% yn is nag unrhyw ran arall o’r DU. Mae rhai o’r ardaloedd mwyaf di-grefydd o unrhyw ran o Ynysoedd Prydain i’w canfod yng nghymoedd y De bellach, gydag ardaloedd fel Caerffili a Blaenau Gwent yn dod ar frig y tabl o ran mannau lleiaf crefyddol holl Gymru neu Loegr.
Gwyddom i gyd i’r ganran o Gristnogion sy’n arfer eu ffydd fod yn sylweddol is na hyn ers degawdau lawer, ond er hynny mae newid sylweddol yma o fewn ein diwylliant a’n cyd-destun y mae angen i ni ei gydnabod. Nid yw bellach yn wir bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod i ba gapel maen nhw’n perthyn ond nad ydyn nhw ddim yn ei fynychu; i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru mae’n agosach ati i ddweud nad oes ganddynt ryw lawer o syniad pam fod y capeli hyd yn oed yn bodoli, a llai fyth o gysyniad o’r hyn y mae’n ei olygu i ddilyn Iesu Grist.
Bu dadlau iach os egnïol ymhlith Cristnogion ynglŷn ag a ddylid cofleidio’r newid hwn fel peth da i’r eglwys neu a yw’n golled i’w edifar. Mae’n siŵr bod llawer o ddoethineb yn y ddau safbwynt. Yr un peth na fydd yn digwydd, fodd bynnag, yw gweld dychwelyd i’r hen ddyddiau. Mae Duw bellach yn amlwg yn ein galw ni fel eglwysi i’w ddilyn ac i dystio iddo mewn tirwedd wahanol i’r hon y cafodd y rhan fwyaf ohonom ein magu ynddi.
Ond er bod heriau niferus yn perthyn i fod yn Gristnogion mewn tirwedd seciwlar fel y Gymru sydd ohoni, cam rhy bell o lawer fyddai adleisio geiriau Hedd Wyn ‘gwae fi fy myw mewn oes mor dreng’, a hynny am ddau reswm. Yn gynta, nid yw ‘Duw ar drai ar orwel pell’; y llynedd, gwelwyd 42 bedydd crediniwr yn eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru, gyda rhai o bob oedran ac ym mhob rhan o’r wlad. Mae Duw ar waith o hyd!
Ac yn ail, da o beth i ni gofio yw mai o fewn byd a chymdeithas a oedd yn gwbl elyniaethus i’r ffydd Gristnogol y tyfodd yr eglwys a’r efengyl yn holl gyfnod y Testament Newydd wedi’r atgyfodiad. Pan na allwn gymryd lle breintiedig o fewn cymdeithas yn ganiataol bellach, mae ein sefyllfa mewn sawl ffordd yn debycach i’r hyn oedd yn wir i ddarllenwyr gwreiddiol llythyrau’r Testament Newydd, a’r disgyblion. Mae hynodrwydd arallfydol yn perthyn i’r efengyl Gristnogol; pam ddim rhoi cynnig ar geisio ei esbonio i eraill, a gweld beth fydd eu hymateb?