Cyfle Swydd: Swyddog Pwyllgorau

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn gwahodd ceisiadau am gyfle swydd cyffrous

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn gwahodd ceisiadau am gyfle cyffrous ar gyfer Swyddog Pwyllgorau mewn cyfnod trawsnewidiol hollbwysig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan annatod o dîm ymroddedig sy’n darparu cefnogaeth i waith yr Undeb ar draws Cymru.

Prif bwrpas y swydd fydd gweinyddu pwyllgorau’r Undeb.  

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwbl ymroddedig i genhadaeth Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir yn hanfodol.

Lleoliad: Caerfyrddin ond gyda hyblygrwydd i weithio gartref.  

Cyflog:  £29,681.57-£31,801.67 (pro rata)

Oriau: 21 awr yr wythnos (0.6). Croesewir ceisiadau rhannu swydd

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 8 Medi 2025. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »