Cyfarfodydd Mudiad y Chwiorydd 2023 

Dyma adroddiad Bonni Davies o gyfarfodydd blynyddol Mudiad y Chwiorydd eleni, yng Nghastell Newydd Emlyn, fu’n llawn amrywiaeth a chymdeithas…

Ar brynhawn braf ganol Medi, tyrrodd chwiorydd o bob rhan o Gymru i gapel Y Graig Castell Newydd Emlyn, yng Nghymanfa Caerfyrddin a Cheredigion, ar gyfer cyfarfodydd blynyddol Mudiad y Chwiorydd. Llynedd, ymgynull yn y Tabernacl Caerdydd fu’r hanes ac chyn hynny, cyn y cyfnod clo, ym Mangor yn Arfon, a chyn hynny yn Nhreforus, Gorllewin Morgannwg. Flwyddyn nesaf, gobeithir teithio i Fôn. Bydd yr achlysur yma bob amser yn rhoi cyfle i gyfarfod â chynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan a chael cyfle i ymweld weithiau â lleoedd nas ymwelwyd â hwy erioed o’r blaen.  

I’r ffyddloniaid fyddai’n mynychu Dydd Agored Glyn Nest yn flynyddol, roedd Castell Newydd Emlyn yn lle cyfarwydd iawn, wrth gwrs. I’r rhai nad oedd y gyfarwydd â’r lle, cafwyd darlun hyfryd a chynhwysfawr iawn o’r dref a’i thrigolion enwog gan y chwaer Nest Thomas yn oedfa’r prynhawn wrth iddi groesawu pawb i’r eglwys. Ond hyd yn oed cyn i un gair gael ei lefaru, roedd y croeso’n amlwg, pe dim ond am y blodau hyfryd oedd yn addurno’r capel.  

Y rheswm dros ymgynull yn Y Graig eleni oedd am mai gweinidog yr eglwys honno, y Parchg Sian Elin Thomas, oedd yn cael ei dyrchafu i Lywyddiaeth y Mudiad am 2023-2024. Roedd hi hefyd yn weinidog ar ddwy eglwys arall, Ebeneser Dyfed, yn sir Benfro, ac oddi ar y Sadwrn cynt, Penybont, Llandysul, ac roedd yr eglwysi rheini hefyd yn rhan o’r croeso.  

Oedfa’r Prynhawn  

Llywydd presennol y Mudiad, y chwaer Ruth Davies o eglwys Tabernacl Caerdydd oedd yn gyfrifol am lywyddu oedfa’r prynhawn.  Ar ôl iddi offrymu’r weddi agoriadol, a chyn cyflwyno’r emyn cyntaf, cafwyd gwledd i’r glust a’r llygad wrth i blant o Ysgol y Ddwylan gyflwyno eitem gerddorol swynol a llawn egni, gan godi calon pawb oedd yn besennol.  

Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan ddwy chwaer leol. Darllenwyd gan Beti Thomas, Ebeneser Dyfed, ac offrymwyd y weddi gan Lynda Williams, o’r Graig; cyn i ysgrifennydd yr eglwys, Nest Thomas, estyn croeso cynnes i chwiorydd Cymru i’r Graig am y tro cyntaf erioed yn hanes y Mudiad. Wedi canu Emyn y Mudiad a derbyn yr offrwm, cyflwynwyd adroddiad yr ysgrifennydd gan Bonni Davies; adroddiad y trysorydd gan Hazel William Jones; ac adroddiad Glyn Nest gan Mair Roberts, ysgrifennydd y Pwyllgor Tŷ; cyn symud ymlaen i Seremoni Urddo’r Llywydd newydd.  

Cyflwynwyd y llywydd newydd mewn modd annwyl a gyda graen arbennig gan y ferch ifanc Fflur James, o Ebeneser Dyfed. Yna, gyda’r gynulleidfa ar ei thraed ac yn canu “Dyma Feibl Annwyl Iesu”, arwyddodd y llywydd newydd Feibl y Mudiad ac arwisgwyd hi â Thlws Nanette, sef cadwyn arian y Mudiad o waith y gemydd Rhiannon, gan Ruth Davies. Offrymwyd gweddi’r urddo gan y Parchedig Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru.  

Darllenwyd cyfarchion cynnes i’r llywydd newydd gan Bonni Davies ar ran Dr Menna Machreth Llwyd, llywydd cyfredol Senana Cymru. Gorchwyl pleserus cyntaf y llywydd newydd oedd cyflwyno i’r gynulledifa is-lywydd newydd y Mudiad, un y bu Sian Elin yn cyd-astudio â hi, sef y Parchg Deb Stammers o Gymanfa Môn. Estynnodd Deb groeso cynnes i bawb i eglwys Tabernacl Llanerchymedd ar Fedi 11eg y flwyddyn nesaf.  

Dewisodd y llywydd “Un Eglwys” fel thema i’r ddwy oedfa ac yn ei hanerchiad o’r gadair rhannodd Sian Elin gyda’r gynulleidfa y neges mai er bod pawb yn yr eglwys yn wahanol, fod gan bob un rywbeth i’w gynnig a rhyw rôl i’w chyflawni wrth adeiladu’r eglwys heddiw. Heriodd y gynulleidfa hefyd i gymryd y gwahaniaethau fel cryfderau ac nid fel gwendidau, am mai NI yw traed a dwylo Crist ar y ddaear. Daeth oedfa hyfryd a bendithiol i glo wrth i’r Parchg Judith Morris gyhoeddi’r fendith ac offrymu gras cyn bwyd. Aeth pawb am y festri yn seiniau hyfryd yr organ  a chwaraewyd gan Nest James, cyfeilydd yr oedfa. 

Hyfryd iawn oedd y gymdeithas o amgylch y byrddau rhwng y ddwy oedfa a diolchir i Delyth o Ebeneser Dyfed a chwiorydd y dair eglwys am baratoi mor anrhydeddus.  

Oedfa’r hwyr 

Parhawyd gyda’r thema “Un Teulu” yn oedfa’r hwyr o dan lywyddiaeth Sian Elin, y llywydd newydd. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Mrs Helena Lewis, Penybont, Llandysul a Mrs Bethan Picton Davies, Ebeneser Dyfed. Cyfoethogwyd yr oedfa gydag eitem gerddorol gan Gôr Crymych a’r cylch, côr y mae Sian Elin ei hun yn aelod ohonno. 

Yn ei chyflwyniad i’r oedfa hon, nododd y llywydd iddi fod yn Fedyddwraig i’r carn ond mai ail beth oedd hwnnw ac mai bod yn Gristion oedd yn dod yn gyntaf. Taflwyd y cwestiwn i’r gynulleidfa “A oes lle i enwadaeth yng Nghymru”. Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, a llawer i gwestiwn arall, roedd Sian Elin wedi gwahodd panel o ferched i ddod i’r oedfa ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Roedd y Parchedigion Deb Stammers, Carys Hamilton (a gamodd mewn ar y funud olaf yn lle’r Parchg Heulwen Evans), Beti Wyn James a Mrs Helen Gibbon i gyd o wahanol enwadau a diddorol iawn oedd clywed eu hatebion i’r cwestiynau heriol a daflwyd atynt gan y llywydd. Cyfareddwyd y gynulleidfa gan lawer o atebion y merched a daeth pawb o’r oedfa gyda theimlad bod amrywiaeth yn beth da, ond mai peth da hefyd fyddai i’r enwadau glosio at ei gilydd a chydweithio gyda’i gilydd yn fwy aml o lawer. Daeth yn amlwg hefyd, wrth drafod, y dylid bob amser roi blaenoriaeth i’r Iaith Gymraeg yn ein hoedfaon.  

Cyn yr emyn olaf, diolchodd yr is-lywydd Deb Stammers ar ran pawb am oedfaon hyfryd a bendithiol ac am yr holl waith a’r croeso twymgalon, rhywbeth a oedd yn enghraifft dda o gydweithio gyda’i gilydd. Diolchodd hefyd i organydd oedfa’r hwyr Mr Meirion Wynn Jones.  

Daeth oedfa fendithiol i ben trwy weddi gan weinidog yr eglwys, a llywydd newydd y Mudiad, y Parchg Sian Elin Thomas. Nid ar chwarae bach y trefnir cyfarfodydd fel hyn ac felly diolch o waelod calon i Sian Elin a’i thîm o weithwyr am yr holl drefniadau. 

Y Parchg. Sian Elin Thomas yn arwyddo Beibl y Mudiad

Gweddïwn fendith ar y Parchg Sian Elin Thomas, ac ar holl weithgaredd Mudiad y Chwiorydd. Pob bendith arnyn nhw ar ddechrau blwyddyn newydd iddyn nhw!

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »