Croeso i Gymru Anna!

Fy enw i yw Anna Ketchum. Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn dod i Gymru ar nifer o deithiau cenhadol byr-dymor. Ar ddechrau mis Mehefin, cyrhaeddais o’r diwedd ar fisa gweithiwr cenhadol dros-dro, wedi’i noddi gan Undeb Bedyddwyr Cymru!

Americanes ydw i, o Oklahoma City. Mae gen i radd mewn crefydd ac athroniaeth. Yn 2014 – yn ystod fy mlwyddyn olaf o astudio – cefais gyfle i ymweld â Chymru ac mi gwympais mewn cariad â’r wlad, ei phobl a’i hiaith. Yn 2017 ymwelais â Phenuel Caerfyrddin am y tro cyntaf a theimlais alwad Duw i weithio gyda’r gynulleidfa yno. Gyda chefnogaeth Aron Treharne, y gweinidog, ac Undeb Bedyddwyr Cymru, y bwriad yw gweithio gyda Penuel ac eglwysi eraill, gydag Undeb y Bedyddwyr a thu hwnt.

Byddaf yn cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol, annog Cristnogion, adeiladu cymdeithas, ac unrhywbeth arall sy’n rhan o gynllun Duw ar fy nghyfer! Mae dysgu Cymraeg yn America wedi bod yn anodd, ond rwyf yn gyffrous i ddechrau gwersi ffurfiol er mwyn dysgu’r iaith cyn gynted a phosibl, a bwrw ati. yma gyda chi.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »