Mae eglwys y Bedyddwyr Aenon, Sandy Hill yn gymuned fechan o 13 aelod, sydd wedi cyfarfod yn ei chwm cul yn agor ar ddyfroedd Aberdaugleddau ers 1812. Ond mae’r gynulleidfa wledig hon bellach yn arwain y ffordd ymhlith eglwysi Bedyddwyr yng Nghymru am ei hymrwymiad i stiwardio’r greadigaeth, gan ennill gwobr arian yn ddiweddar gan A Rocha UK, yr elusen gadwraeth Gristnogol.
‘Roedden ni wedi bod yn canolbwyntio ar ddysgeidiaeth y Beibl am y greadigaeth beth bynnag,’ eglura Jon Brewer, gweinidog yr eglwys, ‘gan ddefnyddio’r Sul Hinsawdd blynyddol fel cyfle i edrych ar adnodau fel Salm 24:1 sy’n dweud mai “eiddo’r Arglwydd yw’r ddaear a phopeth ynddi”. Ac mae gyda ni’r fendith nid yn unig o gael lleoliad prydferth ym mharc cenedlaethol Sir Benfro, ond o gael aelodau yn y capel fel ein diacon Mike, sydd wedi ymroi cymaint i’n mynwent a’n gardd ers blynyddoedd. Dyw e heb ddefnyddio chwynladdwyrna phlaladdwyr yno erioedd, felly mae’r lle mor gyfoethog mewn bywyd gwyllt – crocys a chlychau’r gog yn y gwanwyn, ac ystod eang o lysiau gwyllt. Mewn gwirionedd, mae wedi dod yn fath o warchodfa bywyd gwyllt answyddogol.’
Ond yna ychydig flynyddoedd yn ôl daeth yn amlwg bod angen atgyweirio adeiladwaith yr adeilad, ac fe drodd hynny’n gyfle annisgwyl i bwyso a mesur. ‘Fe ofynnon ni i ni’n hunain beth ddylen ni ei wneud er mwyn bod yn stiwardiaid da ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac i drosglwyddo iddynt eiddo yn yr ardal hon a oedd yn caniatáu tyst Bedyddiedig a oedd yn gynnes ac yn ecolegol.’
Fe benderfynon nhw fuddsoddi mewn pympiau gwres aer (air source heat pumps) i wresogi’r hen adeilad ac er bod angen caniatâd cynllunio, roedd y broses yn llwyddiannus yn y pen draw ac mae hyd yn oed yn darparu llif aer glân yn yr haf. Yna, angen mynd i’r afael â phroblem hirhoedlog eu cyfleusterau toiled, a’r ateb amlwg o ystyried y diffyg pibellau dŵr oedd rhoi eco-dŷ-bach yn yr hen stabl.
Wedi gwneud y pethau hyn ar eu liwt eu hunain, roedd rhai o aelodau’r eglwys wrth eu bodd yn cwrdd â Delyth, cynrychiolydd Cymreig A Rocha, yng nghynhadledd Momentwm Haf 2022 yng Nghaerfyrddin. Syrthiodd pethau i’w lle a daeth yr eglwys y tu ôl i’r syniad o gyflawni’r gofynion eraill oedd angen eu cyrraedd i gyflawni safonau A Rocha. Meddai Delyth: ‘Rwyf wrth fy modd bod eglwys arall wedi ennill y wobr Arian yma yng Nghymru ac un gyntaf y Bedyddwyr at hynny! Mae’n dangos nid yn unig bod mwy o eglwysi yn dechrau ar eu taith i weithredu ar faterion amgylcheddol, ond eu bod eisiau mynd yn ddyfnach ac ymhellach gyda gweithredu’n ymarferol i ofalu am ddaear Duw. Mae Aenon, Sandy Hill wedi gweithio’n galed i gael y wobr hon. Rwy’n mawr obeithio y bydd darllen a chlywed am yr hyn y maent wedi’i gyflawni a sut y gwnaethant hynny yn ysbrydoli eglwysi Bedyddiedig eraill i archwilio’r mater hanfodol bwysig hwn o fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.’
Mae Jon yn glir bod yr holl broses wedi bod yn fendith i’r eglwys yn ei chenhadaeth, yn hytrach nag mewn unrhyw ffordd yn tynnu eu sylw i ffwrdd ohoni. “Mewn gwirionedd mae wedi dod yn gyfle cenhadol. Yn ein cymuned wledig, mae hwn yn fan gwyrdd pwysig i bobl ei fwynhau, ac mae’r ffordd rydyn ni wedi stiwardio’r lle yn golygu bod pobl yn dod i eistedd yn ein gardd, mwynhau’r blodau ac yn y blaen. Dwi’n meddwl bod hwn yn un o’r pethau yna sy’n siarad gyda phobl yn y gymuned ymhell tu allan i’r eglwys, ac yn caniatáu i ni godi pontydd.’
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen eco-eglwys – ewch i: https://ecochurch.arocha.org.uk/