Caffi yn y festri

Wrth gerdded i mewn i festri capel Tabor ym mhentre Dinas ar arfordir Gogledd Penfro, cewch wledd i’r llygaid sy’n gwbl wahanol i unrhyw festri arall yng Nghymru. ‘Ers y gwaith i drawsnewid yr adeilad, mae’r caffis sy wedi bod ma wedi bod yn llewyrchus dros ben – y lle yn aml wedi bod yn llawn dop!’ esbonia Morys Rhys, ysgrifenydd capel Tabor. Defnyddio adeilad y capel i greu canolbwynt cymunedol newydd wnaeth Tabor – a chael bendith wrth wneud. 

‘Dechreuodd y syniad ymhell dros ddegawd yn ôl’, meddai Alwyn Daniels, gweinidog y capel ar y pryd, ‘pan redon ni gyfres o fyfyrdodau yma dros y grawys, gyda choffi a chlonc wythnosol yn rhan o hynny. Wnaethon ni ddim byd i ddechrau, ond pan ddaeth hi’n 2016 roedd problemau tamprwydd ac oerni wedi cyrraedd y pwynt lle roedd rhaid gwneud rhywbeth. A dyma geisio newid yr her yn gyfle!’  

Roedd ysgol y pentre wedi cau, ac er bod traeth poblogaidd Cwm-yr-Eglwys dafliad carreg yn unig o safle’r capel, doedd dim un caffi yn y gymuned. Penderfynodd yr aelodau wario’r arian angenrheidiol er mwyn trawsnewid y lle, er budd yr eglwys a’r gymuned ehangach – gan sicrhau bod y bwriad o agor caffi yno ddim yn cystadlu gyda dim arall oedd yn yr ardal. Er bod yr adeilad yn rhestredig, cafwyd y caniatâd angenrheidiol i wneud y newidiadau a gosodwyd cegin newydd sbon a thai bach o fewn yr adeilad, yn ogystal â gwaith strwythurol arall. Ac yn ffodus iawn, roedd maes parcio sylweddol eisoes gan yr eglwys, a hynny o fudd mawr wrth newid defnydd yr adeilad i fod yn gaffi. 

‘Cawson ni gymorth gan adeiladwr â’i wraig yn aelod gyda ni, ac roedd gyda ni ferch yn aelod hefyd a oedd eisiau rhedeg caffi. Ac yn 2018 agorwyd ‘Bara Brith’ yma – ac mae’n deg dweud ei fod yn llwyddiant mawr,’ cytuna’r ddau. ‘Roedd e’n rhoi cyfle i bobl ddod allan bedwar diwrnod yr wythnos am ginio neu am goffi ac yn enwedig i bobl hŷn yn yr ardal roedd cael hynny yn gwneud byd o wahaniaeth. Byddai pobl o gartref i’r anabl sy gerllaw yma yn dod allan i’r caffi, ac hefyd pobl ar eu laptops fyddai fel arall gartre yn gweithio ar eu pen eu hunain, a lle fel hwn yn adnodd gwerthfawr mewn ardal wledig.’ 

Bu’n rhaid i Bara Brith gau yn sgil y pandemig, ond daeth busnes newydd ‘Te Orinda’ i gymryd ei le ar y safle, sy’n dal i ddefnyddio’r lleoliad fel caffi gan gynnig te prynhawn. ‘Rwy’n falch dros ben ein bod ni wedi mynd amdani gyda’r fenter yma. Dyw’r eglwys ddim wedi gwneud ceiniog o elw wrth gwrs ac nid dyna yw’r pwynt o gwbl; mae’n rhan o’n cenhadaeth trwy ein bod yn cynnig rhywbeth o ddefnydd a budd cymunedol,’ atega Morys.  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »