Bywyd Newydd yn Sir Drefaldwyn

Roeddem wrth ein bodd o gael clywed am sawl bedydd yn ystod yr wythnosau diwethaf, pob un mewn capeli gwledig yn Sir Drefaldwyn. Bu pob un ohonynt yn dilyn traddodiad hyfryd capeli’r cylch, sef trwy drochi mewn nant leol. Maggie Rich, gweinidog un o’r capeli hyn, sy’n adrodd: 

Ar brynhawn Sul cynnes a heulog braf, ymgasglodd teulu, ffrindiau ac aelodau’r eglwys yn y maes i lawr ger y ffrwd i weld bedydd Andrew. O amgylch y cae, safai nifer o deuluoedd ffermio i “wylio’r gwartheg” a’u hatal rhag dod yn rhy agos i edrych ar yr hyn oedd yn digwydd. Roedd dŵr clir fel crisial yn llamu dros y cerrig ac yn llifo i mewn i’r pwll.  

Wrth i Andrew benlinio roedd tawelwch disgwylgar – yr unig sain oedd alaw’s dŵr a’r adar yn y coed. Ar ôl cyffesu ffydd yn Iesu Grist fel Mab Duw a’i Achubwr personol, bedyddiwyd Andrew yn enw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Wrth iddo godi allan o’r dŵr cododd Andrew Ei wyneb i’r nefoedd a sibrwd, “Diolch, Arglwydd.” 

Yn diferu, ond yn fendigedig o hapus, aeth Andrew am sied y tractor i sychu a gwnaeth pawb eu ffordd yn ôl i gapel y pentref, lle buom yn dathlu cymun a derbyn Andrew yn aelod o’r eglwys. 

Fel Bedyddwyr, credwn mewn bedydd trwy drochi pan fydd crediniwr yn penderfynu gwneud ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu – ac nad yw hynny’n benllanw taith ysbrydol y crediniwr ond yn garreg filltir bwysig ac yn un y mae ein heglwysi wedi’u hadeiladu arni. Ymunwch â ni i weddïo dros Andrew a’i eglwys, yn ogystal â’r holl eglwysi yng nghefn gwlad Maldwyn, wrth iddynt dystio i Iesu. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »