Biliau… a bendith

Mae’r codiad parhaus mewn biliau ynni yn cyflwyno cyfleoedd i’n heglwysi rydym wedi bod o bosib yn araf yn i’w cymryd yn y gorffennol. Mae ein grŵp bach o dri chapel gwledig wedi ymuno â dau gapel bach arall, nad oes ganddynt eu gweinidog eu hunain, i rannu gwasanaethau – yn ystod misoedd y gaeaf i ddechrau. Rydym bellach yn gweithio allan trefiadau ymarferol rhedeg gwasanaethau sy’n symud o amgylch y capeli, ac o rannu trafnidiaeth. Gall fod hyn fod yn benderfyniad sylweddol at y dyfodol. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i ni ddod i adnabod ein gilydd yn well, i gefnogi ein gilydd a chynnal presenoldeb Cristnogol yn ein cymunedau.

Gan fod dros 90% o’n cynulleidfaoedd o wedi cyrraedd oed yr addewid eu hunain, rydym yn fwy ymwybodol o anghenion y bobl hŷn yn ein cymunedau ac yn ymateb lle bynnag y bo modd: dim ond un mater yw’r pryder dros gostau byw. Ers dod yn Gaplan Anna –  sef caplaniaeth i gynnig gofal ysbrydol i bobl sy’n ddiweddarach mewn bywyd – dwi wedi bod yn ymwybodol iawn mai dim ond cyffwrdd pen eitha’r peth ydw i a bod cymaint o bobl hŷn sydd angen rhywun i siarad â nhw ac i wrando ar eu pryderon, ac sydd â chymaint i’w roi o hyd.

Dros yr wythnosau nesaf rwy’n gobeithio ennyn brwdfrydedd pobl i rannu yn y fraint o gerdded ochr yn ochr â’r bobl fwyaf anhygoel yn eu henaint, pobl sydd â straeon gwych i’w hadrodd yn aml; straeon am wytnwch, hiwmor a gobaith. Y cysylltiad dwfn hwn, o gymrodoriaeth a chefnogaeth ar y cyd ar daith bywyd, yw’r hyn a fydd yn ein cadw’n ‘gynnes’ y gaeaf hwn.

Gall realiti oer lefelau uwch o filiau gwresogi agor cynhesrwydd bendithion annisgwyl.

Y Parch Maggie Rich, Y Drenewydd

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »