Aduniad deuddydd!

Dair blynedd ers y cynadleddau diwethaf wyneb yn wyneb yn 2019, roedd hi’n hyfryd ac yn addas iawn bod deuddydd y gynhadledd eleni yn uno gwahanol rannau o deulu’r Bedyddwyr yng Nghymru. Ddydd Gwener 24ain Mehefin gwelwyd sefydlu’r Parch Dr Densil Morgan yn gyd-Lywydd ein dwy adain iaith, a hynny am y tro cyntaf erioed. Digwyddiad hanesyddol felly! Ac yna ar ddydd Sadwrn 25ain (a gynhaliwyd mewn partneriaeth gyda SWBA, BMS a Choleg y Bedyddwyr Caerdydd) daeth dros gant a hanner o bobl o bob oedran ac o bob rhan o’r wlad ynghyd ar gyfer diwrnod cwbl ddwyieithog yn gwrando ar lais Duw gyda’n gilydd.  

“Fyddwn i ddim eisiau perthyn i enwad lle’r oedd disgwyl i bawb droedio llinell benodol heb unrhyw gyfle i anghytuno’n onest ac yn gydwybodol…. ac mae ein Datganiad o Egwyddor yn caniatáu’r rhyddid hwn i ni,” meddai Densil yn ei anerchiad agoriadol fel Llywydd, gan bwysleisio’r cysylltiadau sy’n ein rhwymo gyda’n gilydd tra’n cynnal sofraniaeth pob eglwys leol. Clywsom hefyd gan ein gweithwyr tramor a’n gweinidogion newydd am rai o’r arwyddion o fywyd newydd sydd wedi bod yn ymddangos yn barod ar ôl y pandemig wrth i bobl roi cynnig ar bethau newydd o fewn cyd-destun sy’n gyflym seciwlareiddio. Roedd y rhain yn amrywiol iawn – o gynnal diwrnod agored i’r gymuned mewn capel gwledig yn Sir Benfro i sesiwn wythnosol yn cynnig cefnogaeth gyda thechnoleg i’r henoed, a hynny hefyd yn fodd o feithrin perthynas rhwng yr eglwys a’r gymuned. Rhwng Sian-Elin, Tim Moody, Misha Pedersen, Neil Warburton, Mervyn Rigg, Jon Brewer a’r chwech o weithwyr tramor – a’r mwyafrif yn newydd i fywyd yr Undeb ers cyfnod y pandemig – roedd teimlad cryf o obaith wrth edrych i’r dyfodol. Uchafbwynt diwrnod cyfoethog oedd y sesiynau prynhawn hyn i nifer, ond rhaid crybwyll hefyd cyflwyniadau gwerthfawr ar weledigaeth ddewr y gorfforaeth, gwaith byrddau’r Undeb ac hefyd gwrhydri staff a bwrdd rheoli Glyn Nest dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Teg dweud nid yn unig na roddwyd stop ar waith yr Undeb trwy’r cyfnodau clo ond hefyd nad arafwyd arno ychwaith! 

Yn ystod Oedfa’r Llywydd ar y prynhawn dydd Gwener, hyfrydwch hefyd oedd cael croesawu’r gwesteion eciwmenaidd, sef Mrs Meryl James, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; Y Parchedig Aled Edwards, Cytûn; y Parchedig Simon Walkling, Llywydd Cyngor Eglwys Rhyddion Cymru a’r Parchedig Evan Morgan, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Evan a fu’n gyfrifol am ddwyn cyfarchion ar ran y gwesteion. Roeddem yn ymfalchïo yn y cysylltiad agos rhwng Evan ac UBC gan fod ei fam, Mrs Rosemary Morgan, aelod ffyddlon yn Eglwys Cwmifor, Llandeilo yn un o’n chwiorydd mwyaf gweithgar a diwyd.   

Yn dilyn hyn, cawsom gyfle i goffáu’r Gweinidogion a’r Cyn-lywydd a fu farw ers y gynhadledd y llynedd, sef Y Parchedigion Gwynfryn Rogers, Meurig Thomas, Albert Williams a Mrs Mary Wynne Jones. Diolchwn amdanynt ac am eu gwasanaeth ffyddlon i achos Iesu Grist dros flynyddoedd lawer. Offrymwyd gweddi’r coffâd gan y Parchedig Jenny Gough.   

Gwelwyd felly arwyddion bychain ond niferus o waith Duw yn ein plith, thema a wëwyd hefyd drwy ddydd Sadwrn o  ‘Weddi, Gŵyl a Hwyl’. Roedd rhai o’r sesiynau – megis clywed llais Duw drwy ein gilydd gyda Helen Dare, hanes yr eglwys gyda Densil Morgan a’r eglwys fyd-eang gyda’r BMS – yn ddwfn a chyfoethog. Yna ceid cyfle prin i oedolion ymlonyddu o flaen gair Duw yng nghapel hyfryd y Drindod dan arweiniad Coleg Bedyddwyr Caerdydd. Cymeryd un darlleniad o’r Beibl oedd y syniad yma, ac yna ymwneud gyda’r darlleniad hwn mewn deg o ffyrdd gwahanol – trwy luniau, trwy’r dychymyg, trwy fodelau clai, trwy weddi ac esboniadau Beiblaidd. Yn yr un modd, daeth Lois Adams a Ruth Davies â gweithdai celf i ni a oedd yn ein gwahodd i wrando ar lais Duw trwy fod yn greadigol; gan bwysleisio fod ei air yn siarad â ni, ond bod rhaid canolbwyntio yn aml i’w glywed.  

Roedd yr oedfa glo ar y prynhawn dydd Sadwrn yn gyfle i adlewyrchu ar weithgaredd y dydd ac i wrando (drwy gyfrwng ffilmiau gan y BMS) ar y modd yr oedd rhai o’n brodyr a’n chwiorydd o Peru, Uganda a Cambodia wedi ymateb i’r un darlleniadau a ddefnyddiwyd yn y gweithdy o dan arweiniad Rosa Hunt ac Ed Kaneen. Diddorol oedd nodi bod cymaint o’r sylwadau gan unigolion a oedd yn byw ym mhen arall y byd ac o dan amgylchiadau gwahanol yn debyg i’r rhai a wnaed yn ystod y gweithdy ac yn ein hatgoffa mai un Eglwys ydym s’yn addoli ac yn ceisio gwrando ar yr un Duw!   

Gwych felly oedd cael bod yng nghwmni ein gilydd fel cyd-gredinwyr beth bynnag ein hoedran, ac o dan haul Mehefin gyda chôn hufen iâ mewn llaw bu’r diwrnod hefyd yn fodd i blant ifanc a hen (!) fwynhau “pêl-droed i’r deillion, gwneud y macarena, paentio sidan a chrefft yn ogystal â chanu, bwyta hufen iâ ac addoli. Roedd yn ddiwrnod arbennig!”  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »