CIOs Newydd: Gobaith a Her

Ar yr 28ain o Fedi, cyfarfu grŵp o ymddiriedolwyr CIO newydd yn Aberystwyth ar gyfer diwrnod hanesyddol yn hanes UBC. Yn 2021, ysgrifennwyd adroddiad o’r enw ‘Adroddiad 2041’ a oedd yn archwilio tueddiadau ystadegol o fewn teulu UBC.

Er bod yr adroddiad yn un sobr, roedd hefyd yn gatalydd ar gyfer math gwahanol o ymateb: un llawn ffydd weddigar, fel rhai sy’n credu mewn Duw sy’n dal i weithio yn ei fyd ac yn ei Eglwys.

Un ymateb allweddol i’r adroddiad hwnnw oedd cychwyn proses sefydlu 4 corff rhanbarthol newydd (CIO / SEC), fydd yn cefnogi ein Cymanfaoedd a’n heglwysi yn eu cenhadaeth. Roedd cyfarfod yr ymddiriedolwyr yn Aberystwyth yn foment hanesyddol wrth sefydlu’r SECs newydd hynny. Fe wnaeth Marc Owen, oedd yn bresennol, rannu rhai o’i fyfyrdodau gyda ni ar y daith sydd o’n blaenau fel teulu UBC…

Gallwn dreulio cryn dipyn o amser yn meddwl: am Gymru; am ein heglwysi; am adeiladau a chyllid; am strwythurau a llywodraethu… Mae’r rhain i gyd yn bethau pwysig. Nid ydynt wedi eu gwahanu o’r bywyd ysbrydol. Yn wir, rhan o ffyddlondeb Cristnogol yw bod yn barod i wynebu realiti fel y mae. Gwnaeth proffwydi Israel felly; gwnaeth
Iesu felly; a dyna hefyd wnaeth yr apostolion. Mae’r Beibl yn rhyfeddol o ddisentimental am realiti.

Mae ffydd Gristnogol yn ein gwlad wedi dirywio; Mae nifer y bobl sy’n uniaethu â’r teitl “dim crefydd” wedi cynyddu; mae ein heglwysi yn heneiddio. Mae’r heriau’n ddirfawr. Ond efallai, ar adegau, mae rhaid camu’n ôl o hyn oll. Oherwydd mae perygl bod rhai ohonom – yn enwedig y rheiny ohonom sydd mewn swyddi cyfrifol – yn gallu dechrau dychmygu bod dyfodol yr Eglwys yn dibynnu ar ansawdd ein hymatebion i’r heriau.

“Rhan o ffyddlondeb Cristnogol yw ein bod yn barod i wynebu realiti fel y mae”

Yn Ioan 15:1–8, yn un o anerchiadau olaf Iesu i’w ddisgyblion, nid yw Iesu’n dweud: “Gweithiwch yn galetach”; “Dewch o hyd i’r strategaeth iawn”; “Deallwch bob rhan o’r dyfodol”. Mae Iesu’n dweud: “Arhoswch ynof fi”.

Nid yw Gobaith yn gofyn i ni esgus nad yw dirywiad, neu fethiant, neu farwolaeth, neu ofn, neu bethau anodd yn bodoli. Meddyliwch am Eseciel yn sefyll yn nyffryn yr esgyrn sychion. Nid yw Duw yn dweud wrtho: “Paid â phoeni, Eseciel. Dyw’r dyffryn ddim mor sych mewn gwirionedd!”

Mae’n gofyn iddo edrych. I weld. I enwi’r hyn sydd yno mewn gwirionedd. Ac yna mae Duw yn gofyn: “Mab dyn, all yr esgyrn hyn fyw?”

Ac mae Eseciel yn rhoi ateb rhyfeddol o ‘ofalus’: “ARGLWYDD, dim ond ti sy’n gwybod hynny.” Mae doethineb yma! Nid ydym yn gwybod sut olwg fydd ar y deng mlynedd nesaf; nid ydym yn gwybod o ble y bydd y genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn dod; nid ydym yn gwybod beth all Duw ei wneud eto mewn cymunedau sy’n ymddangos yn bell o’r ffydd Gristnogol. Ond rydyn ni’n adnabod yr Un sydd yn gwybod! Ac mae hynny’n newid pethau’n fawr. Mae Duw yn aml ar waith mewn ffyrdd sydd yn guddiedig i ni. Mae hedyn yn diflannu i’r ddaear cyn i unrhyw beth ymddangos ar arwyneb y ddaear. Mae’r groes yn edrych, i lygaid dynol, fel trychineb. Ond – mae Duw ar waith! Rhaid i ni weld realiti yn glir, ond peidier â drysu’r hyn y gallwn ei ‘weld’ â’r realiti cyfan.

Mae hynny’n dod â ni yn ôl at eiriau Iesu: “Fi yw’r winwydden; chi yw’r canghennau”
Mae’n ddelwedd hardd. Ac mae hefyd yn un sydd yn ein cadw’n ddarostyngedig am nad yw’r canghennau yn gyfrifol am roi bywyd i’r winwydden. Yr ‘alwad’ i’r gangen yw aros yn gysylltiedig i’r winwydden. Rydym yn gyfrifol am aros yn ffyddlon i Dduw a’i alwad. Nid ydym yn gyfrifol am achosi i Deyrnas Dduw ddigwydd! Dywedodd Iesu: “Arhoswch ynof fi”. Dim: “Rheolwch y dyfodol.” Ond: Arhoswch. Gweddïwch. Gwrandewch. Dirnadwch. Gweithredwch yn ffyddlon. (Edifarhewch pan fo angen!) Meddwch ar ddewrder pan fod angen dewrder. Arferwch amynedd pan fod angen amynedd. Ac ymddiriedwch yn Nuw.

“Arhoswch. Gweddïwch. Gwrandewch. Dirnadwch… Meddwch ar ddewrder pan fod angen dewrder.”

Mae hefyd rywbeth arwyddocaol am yr ieithwedd ‘tocio’. Dywed Iesu: “Os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, [mae‘r garddwr yn] trin ac yn tocio’r gangen honno’n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni.’ Nid methiant felly yw tocio. Mae tocio yn rhywbeth y mae’r garddwr yn ei wneud yn union achos bod y planhigyn yn bwysig.

Efallai bod pethau rydyn ni wedi’u hetifeddu fel teulu UBC na ddylent barhau yn syml achos eu bod wedi bod yno erioed. Efallai y bydd rhagdybiaethau fydd angen eu cwestiynu. Efallai bydd strwythurau a wasanaethodd tymhorau blaenorol nad ydynt bellach yn gwasanaethu cenhadaeth mewn ffordd effeithiol heddiw. Efallai bod pethau rydyn ni’n eu caru y mae’n rhaid i ni eu rhyddhau. Gall hyn fod yn boenus. Ond dywed Iesu hefyd: ‘Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi.’ Ioan 15:8. Yma, mae addewid ffrwyth.

Mae hynny’n dod â ni yn ôl at rai o’r ystadegau hynny. Mae’r ystadegau yn sôn am bobl – yn enwedig cenhedlaeth iau – nad oes gan grefydd ffurfiol unrhyw berthnasedd personol iddynt. Yn hytrach na gofyn: “Pam nad ydyn nhw’n dod aton ni?” efallai y dylwn ofyn: “Ble maen nhw, a sut allwn ni eu cyrraedd?” Mae Duw yn eu caru nhw! Nid fel ystadegau, nid fel demograffig, ond fel unigolion.

Efallai un o’r gweddïau mwyaf arwyddocaol y gallwn fod yn ei gweddïo heddiw yw: “Arglwydd Iesu, helpa ni i ddwyn ffrwyth. Rho lygaid i ni weld y bobl rwyt ti eisoes yn gweithio ynddynt, ac anfona ni atyn nhw.” Mae Ysbryd Duw ar waith yng Nghymru. Mae Iesu yn Arglwydd. A gwahoddir ni i ymuno â’r hyn y mae Duw yn ei wneud.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau