Y Stafell Fyw: Sul Adferiad

Wrth i nifer nodi Sul Adferiad (ar Sul olaf mis Hydref), rhown ddiolch am waith Y Stafell Fyw yng Nghaerdydd, a gwahoddwn i chi ymuno â nhw mewn cofiant a gweddi.

Sul olaf mis Hydref fydd 15fed Sul Adferiad Cymru, i gofio pawb sydd mewn caethiwed i unrhyw sylwedd, unrhyw dueddiad, unrhyw sefyllfa, unrhyw berthynas, ac i ddathlu’r rhyddid mae cymaint wedi’u harwain iddo dros y blynyddoedd trwy sefydliadau megis Y Stafell Fyw a Cynnal.

Dyma weddi a baratowyd ar gyfer Sul Adferiad eleni:

Ein Tad, yn y byd llawn rhyfeddod hwn, er gwaetha’r holl bethau da a greaist i ni eu mwynhau, rydym hefyd mor aml yn cael ein rhwydo gan gaethiwed –weithiau i bethau sy’n hanfodol ddrwg, weithiau i bethau a greaist yn dda ond y gwnaethom ninnau gamddefnydd ohonynt. Cofi wn ger dy fron heddiw pob un a ddaliwyd, ac sy’n parhau wedi’u dal yn rhwyd caethiwed, ac yn arbennig dros y rhai nad ydynt eto’n cydnabod eu gormes nac felly’n ceisio cymorth. Gweddïwn y byddi’n defnyddio sefydliadau fel yr Ystafell Fyw a Cynnal i gynnig y cymorth hwnnw a’r gefnogaeth barhaus sy’n cynnig ac yn cynnal rhyddid

Dathlwn y ff aith bod cymaint o’r rhai a fu’n gaeth wedi canfod rhyddid. Diolchwn am y rhai sy’n cyd-gerdded â hwy ar lwybr rhyddid ac yn eu calonogi i barhau pan fo’r ffordd yn anodd, fel y bydd i bawb mewn gwahanol amgylchiadau gydol oes. Dathlwn obaith.

Yn olaf, gweddïwn ar i ti gynnal ein rhyddid ninnau, ac os ydym yn parhau’n gaeth i unrhyw beth mewn unrhyw ff ordd, dyro i ni dy nerth di, achos ni all ein nerth ninnau hebot dycio dim, i fentro ceisio’r cymorth sydd i’w gael i dorri drwy’r rhwyd. Ac os ydym yn ddall i’r lle rydym, agor ein llygaid i fentro gweld.

Gallwch ddarganfod gwasanaeth llawn sydd wedi ei baratoi ar ein cyfer gan Siôn Aled Owen isod. Mae croeso ichi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn eich eglwysi I gofio am y rhai sy’n adfer neu sy’n gaeth o hyd i sylweddau neu ymddygiadau niweidiol, ac i weddïo drostynt a thros y rhai sy’n cynnig help a chefnogaeth iddynt.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau