Newyddion Teuluol UBC

Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth ein ffrind a chyd-weithiwr annwyl Mrs Helen Wyn. Roedd Helen yn aelod gwerthfawr o dîm Swyddfa UBC ac yn uchel ei pharch ym mhlith teulu’r Bedyddwyr. 

Fel Cydlynydd Y Gorfforaeth, roedd Helen wedi cynorthwyo nifer fawr o eglwysi, gweinidogion ac aelodau ledled Cymru – a’i chyngor doeth a’i chyfeillgarwch yn fendith i gynifer ohonom a gwelwn ei heisiau yn fawr iawn.

Cofiwn yn dyner am Eirian a Fflur a’r teulu cyfan yn eu colled. Diolchwn am ei ffydd gadarn yn Iesu – yr un a wasanaethodd mor ffyddlon. Gweddïwn y bydd gobaith ei ffydd hi yn gysur i’w theulu a’i hanwyliaid yn y dyddiau a ddaw. 

Gwelwch fanylion yr angladd isod:

Cynhelir angladd cyhoeddus ddydd Sadwrn, 15fed o Awst yng Nghapel Ebenezer, Brynaman am 12.00 canol dydd ac yna’r claddu ym Mynwent Capel Siloam, Brynaman. Blodau’r teulu’n unig, os gwelwch yn dda.

Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, er cof am Helen, tuag at ‘Ymchwil Cancr Cymru’ a  ‘Ward J, Ysbyty Treforys’ drwy law Evan Rees a Hywel Griffiths, Trefnwyr Angladdau, 98 Heol Cae Gurwen, Gwaun Cae Gurwen, Rhydaman SA18 1PD.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau