Sioned Graves sydd yn cynnig ei myfyrdodau am yr awr genhadol yr ydym yn byw ynddi wrth i nifer gyflwyno adroddiadau am ‘Y Diwygiad Tawel’ ar draws y Deyrnas Unedig. Edrycha ar hanes 1 Brenhinoedd 18, a gofyn y cwestiwn: sut y dylwn ymateb?
“Aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau. Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua’r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych, dywedodd, “Nid oes dim i’w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.” A’r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o’r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i’r glaw dy rwystro.”
1 Brenhinoedd 18:44
Penwythnos diwethaf, roeddwn i a’m gŵr a’m merch i fyny ar lethrau Carn Ingli. Cawsom y profiad o weld un o ffryntiau mawr y Gorllewin yn cau i fewn. Fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd gyda chymylau bach gwyn droi’n wynt cryf, ac erbyn y noson ganlynol, dyma law trwm yn cau’n llen dros y tir i gyd. Os ydych chi erioed wedi arsylwi ar un o ffryntiau’r Iwerydd yn dynesu, byddai’n hawdd i chi ddychmygu’r olygfa yn 1 Brenhinoedd 18.
Y cyd-destun yno yw bod Israel wedi bod trwy gyfnod o sychder enbyd, felly byddai ymddangosiad glaw wedi bod yn destun rhyfeddod ac anghrediniaeth. Er nad yw Elias yn gweld y cwmwl gyda’i lygaid ei hunan yn yr hanes, mae adroddiad ei was bod cwmwl yn codi o’r môr yn ei ysgogi i ymateb yn syth. Pam felly? Darllenwn yn yr adnodau cynt ei fod yn penlinio mewn osgo weddigar. Efallai ei fod yn ymateb felly am fod Duw eisoes wedi rhoi ffydd iddo, mewn ymateb i’w weddi, bod glaw yn wir yn dod. Ffydd yw’r ‘dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto’n ei weld.’ (Heb 11:1).
Bûm mewn cyfarfod yn ddiweddar pan glywsom yr hanes hwn yn cael ei ddarllen mewn perthynas ag adroddiad ‘Y Diwygiad Tawel’. Prif gasgliad yr adroddiad gan Gymdeithas y Beibl yw bod degawdau o ‘ddirywiad’ ar draws eglwysi’r DU wedi dechrau newid. Efallai un o’r casgliadau mwyaf calonogol oedd yr arsylwad mai pobl ifanc (‘Gen Z’) sydd yn arwain y newid hwn. Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth y nifer o bobl 18-24 oed oedd yn mynychu’r eglwys yn rheolaidd godi o 4% i 16% rhwng 2018 a 2024.
Tybed a ydym yn gweld cwmwl yn codi o’r môr yn ein hinsawdd ysbrydol heddiw? Beth bynnag yw ein safbwynt ni – os ydym ni’n gweld newid neu ‘ddiwygiad’ yn ein cyd-destun lleol ai peidio, tybed a yw’r adroddiadau hyn yn ein hysgogi ni i ymateb mewn ffydd? Efallai ein bod ni heb weld ‘y cwmwl’ gyda’n llygaid ein hunain, ond fel Elias, tybed a fyddai Duw yn gofyn i ni ymateb gyda ffydd i’r hyn yr ydym yn ei glywed gan eraill?
A sut y gwnawn ni hynny? Un peth y gallwn wneud, fel Elias yn yr hanes, yw aros mewn osgo gweddi. Mae’r alwad i weddïo ac i eiriol am y bobl o’n cwmpas sydd angen newyddion da yr efengyl yn aros yr un mor allweddol ag erioed. Mewn gweddi, yn aml y mae ein hymwybyddiaeth o bresenoldeb a realiti Duw yn codi, a gyda hynny, y mae ffydd hefyd yn cynyddu.
“Pam na fyswn… fel Elias, yn dechrau
ymateb wrth glywed yr adroddiadau hyn
am law – a dechrau symud mewn ffydd?“
Rhywbeth arall allen ni wneud yw dechrau gweithredu mewn ffydd, ar sail ein cred mai Duw byw sydd gennym – a’i fod E ‘ym musnes achub’! Mae’n debyg bod yr ystadegau gan Gymdeithas y Beibl am bobl ifanc yn adroddiad ‘Y Diwygiad Tawel’ yn gyson yn cael eu atgyfnerthu gan adroddiadau ar lawr gwlad gan nifer o eglwysi sydd yn gweld pobl ifanc yn cael eu denu i’r ffydd – ac yn aml yn ‘troi i fyny’ heb rybudd i eglwysi.
Un o’r pethau a allwn ni wneud yw gofyn y cwestiwn – a fyddai ein heglwysi ni yn barod i groesawu pobl newydd fel hyn petaent yn dod? Beth am i ni ddechrau meddwl: sut y gall ein heglwysi fod yn llefydd haws i bobl ‘droi i fyny’ atynt?
Ar yr un pryd, mae’r alwad i estyn y tu allan i’r eglwys yr un mor allweddol ag erioed, os nad yn fwy pwysig nag erioed yn yr awr sydd ohoni.
Fe ryddhawyd adroddiad gan Scripture Union yn ddiweddar am blant ‘Gen Alpha’ a ddarganfu bod 80% ohonynt yn credu ym modolaeth Duw, ond dim ond 7% oedd yn mynychu’r eglwys yn rheolaidd. Pan ofynnwyd sut yr hoffent ymwneud â gweithgaredd fyddai’n eu helpu i ddysgu am Dduw, nid ‘mynd i’r eglwys’ oedd eu hoff ddewis o bell ffordd, ond mynychu gweithgareddau perthnasol am ffydd yn eu cartrefi, y tu allan, mewn neuaddau chwaraeon, mewn caffi ac ati! Er bod plant a phobl ifanc yn wir yn agored iawn i ffydd yn yr oes hon, mae’r alwad i ‘gamu allan’ o’r eglwys mewn ffyrdd creadigol a pherthnasol i gwrdd â’r genhedlaeth iau ble maen nhw yn parhau yr un mor bwysig.
Mae’r alwad hon yn wir i bob oed hefyd: darganfu adroddiad ‘Y Diwygiad Tawel’ y byddai 56% o bobl nad ydynt yn mynychu’r eglwys yn agored i ffrind Cristnogol i weddïo gyda nhw petaent yn cynnig!
Pam na fyswn, felly, fel Elias, yn dechrau ymateb wrth glywed yr adroddiadau hyn am law – a dechrau symud mewn ffydd?