Rhoi Dyfodol Newydd i Adeiladau Capel

‘Dyn ni ddim wedi gorfod mynd i chwilio am un tenant – maen nhw wedi dod aton ni,’ esbonia Christian Tucker-Williams,  Uwch Gydlynydd Corfforaeth UBC. Ers rhai blynyddoedd bellach mae Corfforaeth UBC wedi bod yn dilyn strategaeth newydd pan fydd achos yn dod i ben ac adeilad capel, yn drist, yn colli’r eglwys a fu’n addoli yno. Erbyn hyn mae’r strategaeth yn dechrau dwyn ffrwyth, gydag enghreifftiau positif yn datblygu mewn gwahanol rannau o’r wlad.  

Tabor, Cross Hands 

Roedd niferoedd yr aelodau’n disgyn yn eglwys Tabor, ac wrth ddechrau meddwl am y dyfodol fe gysylltodd yr eglwys yn gynnar yn y broses gyda’r Undeb. Aeth Christian i’w cyfarfod a’u helpu i ystyried gwahanol opsiynau o ran y ffordd ymlaen. Yn y pendraw, daeth yn amlwg yn yr achos hwn mai dod â’r achos i ben fyddai’r opsiwn orau – ond gwelwyd bod potensial i’r safle ac roedd yr aelodau am weld defnydd da newydd yn dod o’r adeilad, ac yn cefnogi staff yr Undeb i wneud y gwaith. 

Ym mis Mehefin 2024 fe gymerodd Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli les 5 mlynedd ymlaen ar festri Tabor, a bwrw ati i greu hwb cymunedol, iaith Gymraeg yno gan dynnu’r gymuned i mewn i’r gwaith. Fel yr esboniodd Alaw, Rheolwr y Fenter, i ni, “Ni mor hapus yma. Ac mae wedi gweithio mor dda i blant a phobl ifanc – mae’r lle yn fishi bron bob dydd nawr!” Yn ogystal â gwasanaeth ‘Pryd ar Glud’ yn darparu bwyd ffres i bobl yn eu cartrefi yn y pentrefi cyfagos, mae yma sesiynau ioga yn y Gymraeg, clwb plant, theatr ieuenctid, ‘Mwncis Menter’ a llu o gymdeithasau lleol yn llogi’r lle – a rhieni’n ei ddefnyddio ar gyfer partion. 

“Be ni wedi joio hefyd,” meddai Alaw wrth ddangos i ni’r Ardd Gymunedol sydd bellach yn datblygu tu allan i’r festri, “yw bod gyda ni gyn-aelodau o’r eglwys oedd yn cwrdd yma’n dod yn rheolaidd fan hyn hefyd – mae’n lyfli eu bod nhw’n rhan o’r bennod newydd!” 

Wrth ddod i gytundeb gyda’r Fenter Iaith, fe sicrhaodd yr Undeb bod hyn a hyn o oriau’r wythnos o ddefnydd ar yr adeilad yn aros gyda theulu’r Bedyddwyr, ac rydym yn edrych i bosibiliadau creadigol at y dyfodol yno. 

Gorseinon Seion Noddfa 

“Braint ac anogaeth oedd cael gwahoddiad i wasanaeth ailagor adeilad Seion – er gyda chynulleidfa eglwys newydd! Canlyniad hynny yw bod eglwys fwy yn rhoi tystiolaeth Gristnogol yng nghanol stryd fawr Gorseinon,” meddai Christian yn frwdfrydig. 

Eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol fel merch-eglwys i Benuel, Casllwchwr oedd Seion Noddfa a hynny yn 1899. Crebachu oedd hanes y gynulleidfa, yn enwedig ar ôl cyfnod Covid, ac yn debyg i Tabor, fe benderfynodd yr eglwys estyn allan i’r Undeb i drafod y sefyllfa. Ystyriwyd yr holl opsiynau a gweddïwyd am y peth – a phenderfynodd yr aelodau eu bod yn derbyn arweiniad i ddychwelyd at y fam eglwys ac uno’r ddwy yn ffurfiol (gan greu eglwys Penuel Newydd). 

Roedd hynny’n gadael safle hen eglwys Seion ar y stryd fawr – a welasai Billy Graham yn pregethu un tro ar ymweliad i Gymru! Roedd eglwys Riverside Christian Fellowship wedi bod yn addoli yn y Stiwt yng Ngorseinon, heb gartref ei hun. Digwydd bod i un o arweinwyr Penuel Newydd gyfarfod ag un o swyddogion Eglwys Riverside yn yr archfarchnad, ac fe arweiniodd hynny at y syniad annisgwyl o osod adeilad Seion ar brydles i eglwys Riverside. Maen nhw fel eglwys bellach yn cwrdd yno’n wythnosol ar y Sul, ac yn rhedeg gweithgareddau ganol wythnos hefyd. 

Eglwysi eraill 

Nid dyna’r unig enghraifft lle bu modd rhoi adeilad capel ar osod i gynulleidfa o enwad arall a oedd yn ddigartref. Nid nepell o Gorseinon yn nhref Pontarddulais roedd achos eglwys Y Babell wedi dod i ben, a’r eiddo wedi mynd i ofal Corfforaeth UBC. Clywodd eglwys Apostolaidd Carmel yn lleol am hyn a holi a fedrent rhentu’r gofod, gan ddod i gytundeb les 10 mlynedd gyda’r Gorfforaeth yn haf 2024.  

Mae trafodaethau tebyg eu natur yn digwydd ar hyn o bryd yng nghyswllt adeilad Zion, Llanwrtyd yn y canolbarth.  

Fel mae Christian yn nodi, “Mae rhaid i ni gael defnydd da ar yr adeiladau hyn – falle fydd ddim modd i hynny fod yn eglwys bob tro, ond ein bod yn ail-ddefnyddio’r adeiladau hyn er mwyn y dyfodol a’r genhadaeth, a thrwy hynny datgloi’r buddsoddiad ac aberth ein cyn-dadau dros achos Crist heddiw!” 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau