
Pe byddai’r enwad Bedyddiedig yn gorfod ystyried rhestr o weinidogion amlycaf eu cyfraniad yn ystod yr ugeinfed ganrif, byddai’r mwyafrif yn siŵr o gyfeirio at Lewis Valentine yn un ohonynt. Roedd yn sefyll yn ddwylath dalsyth ac yn ddiwinydd galluog a allai, o ddewis hynny, fod wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel academig prifysgol.